52.—(1) Mae rheoliad 10 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2)—
(a)cyn “Asiantaeth yr Amgylchedd”, yn y man cyntaf lle y mae'n ymddangos, mewnosoder “naill ai Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu”;
(b)yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd”, yn yr ail fan lle y mae'n digwydd, rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.
(3) Ym mharagraff (3)(b)—
(a)ym mharagraff (ii), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”;
(b)ym mharagraff (iii), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.