xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 5OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

52.—(1Mae rheoliad 10 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (2)—

(a)cyn “Asiantaeth yr Amgylchedd”, yn y man cyntaf lle y mae'n ymddangos, mewnosoder “naill ai Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu”;

(b)yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd”, yn yr ail fan lle y mae'n digwydd, rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

(3Ym mharagraff (3)(b)—

(a)ym mharagraff (ii), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”;

(b)ym mharagraff (iii), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.