xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
10.—(1) Mae person sy'n swyddog awdurdodedig at ddibenion Rheoliadau Defnyddiau Atgynhyrchiol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002(1) yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei ystyried yn swyddog awdurdodedig wedi hynny yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ei awdurdodi gan y Comisiynwyr a chan Weinidogion Cymru.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar bwerau'r Comisiynwyr na Gweinidogion Cymru i ddirymu, ar y dyddiad trosglwyddo neu wedi hynny, unrhyw awdurdodiad sydd gan berson neu i adnewyddu'r awdurdodiad hwnnw wedi hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 10 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)
O.S. 2002/3026 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/2530.