14.—(1) Rhaid i'r Corff baratoi datganiad o gyfrifon mewn perthynas â CCGC ar gyfer y cyfnod perthnasol.
(2) Rhaid i'r Corff gyflwyno'r datganiad o gyfrifon i Weinidogion Cymru ar ba ffurf bynnag a phryd bynnag a gyfarwyddir ganddynt.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o'r datganiad o gyfrifon at Archwilydd Cyffredinol Cymru ar 31 Awst 2013 neu cyn hynny.
(4) Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a)archwilio ac ardystio'r datganiad o gyfrifon ac adrodd arno;
(b)rhoi copi o'r datganiad ardystiedig o gyfrifon ynghyd â'i adroddiad arno i'r Corff; ac
(c)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i'r datganiad o gyfrifon gael ei gyflwyno, gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gopi o'r datganiad ardystiedig o gyfrifon a'r adroddiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 14 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)