Adroddiad terfynol mewn perthynas â CCGC
15.—(1) Rhaid i'r Corff baratoi, ar gyfer Gweinidogion Cymru, adroddiad ar y ffordd y cafodd swyddogaethau CCGC eu harfer a'u cyflawni yn ystod y cyfnod perthnasol.
(2) Rhaid i'r Corff gyflwyno'r adroddiad i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo modd ar ôl 31 Mawrth 2013.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.