ATODLEN 7DARPARIAETHAU TROSIANNOL AC ARBEDION
RHAN 1Darpariaethau cyffredinol
Parhad o ran ymarfer y swyddogaethauI12
1
Nid oes yr un o'r pethau a ganlyn, hynny yw—
a
dileu CCGC,
b
trosglwyddo, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw swyddogaeth gan y Gorchymyn hwn, nac
c
trosglwyddo unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau gan y Gorchymyn hwn,
yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir cyn i'r dileu, y trosglwyddo, yr addasu, y diddymu neu'r dirymu gael effaith.
2
Caiff unrhyw beth (yn cynnwys, heb gyfyngiad, achos cyfreithiol) sydd, ar y dyddiad trosglwyddo, yn y broses o gael ei wneud gan neu mewn perthynas â throsglwyddwr i ymarfer swyddogaeth drosglwyddedig, neu mewn cysylltiad â swyddogaeth drosglwyddedig, gael ei barhau gan neu mewn perthynas â'r trosglwyddai.
3
Mae unrhyw beth a wneir gan neu mewn perthynas â throsglwyddwr cyn y dyddiad trosglwyddo i ymarfer swyddogaeth drosglwyddedig, neu mewn cysylltiad â swyddogaeth drosglwyddedig, i'r graddau y mae'n ofynnol er mwyn parhau â'i effaith ar y dyddiad hwnnw ac wedyn, yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud gan neu mewn perthynas â'r trosglwyddai.
4
Mae unrhyw gyfeiriad at drosglwyddwr (ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at drosglwyddwr) mewn unrhyw ddogfen y mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys iddi, neu sy'n ymwneud ag unrhyw beth y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys iddo, i'r graddau y mae'n ofynnol er mwyn rhoi effaith i'r darpariaethau hynny, i'w drin fel cyfeiriad at y trosglwyddai.