Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013

Cyfarwyddiadau cyffredinol

5.—(1Mae cyfarwyddyd a roddwyd o dan adran 3(1) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(1) neu adran 131(4) o Ddeddf 1990 cyn y dyddiad trosglwyddo i'w drin ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny fel cyfarwyddyd a roddir i'r Corff o dan erthygl 11(1) o'r Gorchymyn Sefydlu.

(2Mae cyfarwyddyd a roddwyd at ddibenion adran 1(4) o Ddeddf Coedwigaeth 1967(2) cyn y dyddiad trosglwyddo, i'w drin, i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â swyddogaeth a ddaw'n arferadwy gan y Corff yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn, ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny, fel cyfarwyddyd a roddwyd i'r Corff o dan erthygl 11(1) o'r Gorchymyn Sefydlu.

(3Mae cyfarwyddyd a roddwyd o dan adran 40(1) o Ddeddf 1995 cyn y dyddiad trosglwyddo, i'w drin, i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â swyddogaeth drosglwyddedig, ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny, fel cyfarwyddyd a roddwyd i'r Corff o dan erthygl 11(1) o'r Gorchymyn Sefydlu.

(4Mae cyfarwyddyd a roddwyd o dan adran 40(2) o Ddeddf 1995 cyn y dyddiad trosglwyddo, i'w drin, i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru, ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny fel cyfarwyddyd a roddwyd i'r Corff o dan erthygl 11(3) o'r Gorchymyn Sefydlu (fel y'i hamnewidiwyd gan y Gorchymyn hwn) ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Rhan hon mewn perthynas â chyfarwyddiadau penodol.