ATODLEN 7LL+CDARPARIAETHAU TROSIANNOL AC ARBEDION

RHAN 2LL+CCyfarwyddiadau

Cyfarwyddyd Dosbarthu Dŵr Wyneb a Dŵr Daear Ardaloedd Basn Afon (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2009LL+C

6.—(1Mae Cyfarwyddyd Dosbarthu Dŵr Wyneb a Dŵr Daear Ardaloedd Basn Afon (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2009 i'w drin ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny fel cyfarwyddyd a roddir i'r asiantaeth briodol—

(a)o dan erthygl 11(3) o'r Gorchymyn Sefydlu (fel y'i hamnewidiwyd gan y Gorchymyn hwn) i'r graddau y mae'r cyfarwyddyd yn gymwys pan yr asiantaeth briodol yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

(b)o dan adran 40(2) o Ddeddf 1995 i'r graddau y mae'r cyfarwyddyd yn gymwys pan yr asiantaeth briodol yw Asiantaeth yr Amgylchedd;

(c)o dan erthygl 11(3) o'r Gorchymyn Sefydlu(1) (fel y'i hamnewidiwyd gan y Gorchymyn hwn) ac o dan adran 40(2) o Ddeddf 1995 i'r graddau y mae'r cyfarwyddyd yn gymwys pan yr asiantaeth briodol yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithredu ar y cyd.

(2Yn y paragraff hwn, mae i “asiantaeth briodol” yr un ystyr ag “appropriate agency” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Amgylchedd Dŵr (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2003 fel y'u diwygiwyd gan y Gorchymyn hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 para. 6 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

(1)

O.S. 2003/3242 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2035, O.S. 2007/3538, O.S. 2008/1097 (yn rhannol o 14/05/08, yn llwyr o 24/03/15), O.S. 2010/630 (C. 42), O.S. 2011/556 (C. 19).