ATODLEN 7DARPARIAETHAU TROSIANNOL AC ARBEDION
RHAN 2Cyfarwyddiadau
Cyfarwyddiadau Teipoleg, Safonau a gwerthoedd trothwy Dŵr Daear Ardaloedd Basn Afon (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 20107
1
Mae Cyfarwyddiadau Teipoleg, Safonau a gwerthoedd trothwy Dŵr Daear Ardaloedd Basn Afon (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2010 i gael eu trin, ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny, fel cyfarwyddiadau a roddir i'r asiantaeth briodol—
a
o dan erthyglau 11(3) ac 11A(3) o'r Gorchymyn Sefydlu (fel y'i hamnewidiwyd gan Gorchymyn hwn) i'r graddau y mae'r cyfarwyddiadau'n gymwys pan yr asiantaeth briodol yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
b
o dan adrannau 40(2) a 122(2) o Ddeddf 1995 i'r graddau y mae'r cyfarwyddiadau'n gymwys pan yr asiantaeth briodol yw Asiantaeth yr Amgylchedd; ac
c
o dan erthyglau 11(3) ac 11A(3) o'r Gorchymyn Sefydlu (fel y'i amnewidiwyd gan y Gorchymyn hwn) ac o dan adrannau 40(2) a 122(2) o Ddeddf 1995 i'r graddau y mae'r cyfarwyddiadau'n gymwys pan yr asiantaeth briodol yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithredu ar y cyd.
2
Yn y paragraff hwn, mae i “asiantaeth briodol” yr un ystyr ag “appropriate agency” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Amgylchedd Dŵr (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2003 fel y'u diwygiwyd gan y Gorchymyn hwn.