Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013

Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999

9.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion rheoliad 7(11) o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999(1).

(2Pan fo—

(a)adroddiad diogelwch yn cael ei anfon at yr awdurdod cymwys mewn perthynas â sefydliad yng Nghymru;

(b)yr adroddiad diogelwch hwnnw yn cynnwys gwybodaeth sy'n cyfeirio at wybodaeth mewn adroddiad neu hysbysiad arall a anfonwyd at Asiantaeth yr Amgylchedd yn unol â gofynion a osodwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad; ac

(c)yr adroddiad neu'r hysbysiad arall wedi ei anfon at Asiantaeth yr Amgylchedd cyn y dyddiad trosglwyddo;

yna, ystyrir bod yr adroddiad neu'r hysbysiad a anfonwyd at Asiantaeth yr Amgylchedd wedi ei anfon at yr asiantaeth briodol.

(3Yn y paragraff hwn, mae i “asiantaeth briodol”, “sefydliad”, “hysbysiad” ac “adroddiad diogelwch” yr ystyron a roddir i “appropriate agency”, “establishment”, “notification” a “safety report” yn eu tro gan reoliad 2(1) o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999 fel y'u diwygiwyd gan y Gorchymyn hwn.