9.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion rheoliad 7(11) o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999(1).
(2) Pan fo—
(a)adroddiad diogelwch yn cael ei anfon at yr awdurdod cymwys mewn perthynas â sefydliad yng Nghymru;
(b)yr adroddiad diogelwch hwnnw yn cynnwys gwybodaeth sy'n cyfeirio at wybodaeth mewn adroddiad neu hysbysiad arall a anfonwyd at Asiantaeth yr Amgylchedd yn unol â gofynion a osodwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad; ac
(c)yr adroddiad neu'r hysbysiad arall wedi ei anfon at Asiantaeth yr Amgylchedd cyn y dyddiad trosglwyddo;
yna, ystyrir bod yr adroddiad neu'r hysbysiad a anfonwyd at Asiantaeth yr Amgylchedd wedi ei anfon at yr asiantaeth briodol.
(3) Yn y paragraff hwn, mae i “asiantaeth briodol”, “sefydliad”, “hysbysiad” ac “adroddiad diogelwch” yr ystyron a roddir i “appropriate agency”, “establishment”, “notification” a “safety report” yn eu tro gan reoliad 2(1) o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999 fel y'u diwygiwyd gan y Gorchymyn hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 9 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)
O.S. 1999/743 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2469, O.S. 2005/1088, O.S. 2008/960, O.S. 2008/1087, O.S. 2009/1595.