Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013

RHAN 1Darpariaethau cyffredinol

Dehongli

1.—(1Yn yr Atodlen hon—

ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Ebrill 2013;

ystyr “swyddogaeth drosglwyddedig” (“transferred function”) yw unrhyw swyddogaeth sydd, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn, yn dod yn arferadwy ar y dyddiad trosglwyddo gan gorff neu berson ac eithrio'r corff neu'r person yr oedd yn arferadwy ganddo yn union cyn y dyddiad hwnnw;

ystyr “trosglwyddai” (“transferee”) yw y corff neu'r person y daw swyddogaeth drosglwyddedig yn arferadwy ganddo ar y dyddiad trosglwyddo;

ystyr “trosglwyddwr” (“transferor”) yw y corff neu'r person yr oedd swyddogaeth drosglwyddedig yn arferadwy ganddo yn union cyn y dyddiad trosglwyddo.

(2At ddibenion y diffiniad o “swyddogaeth drosglwyddedig”, nid yw o bwys bod swyddogaeth yn dal yn arferadwy ar y dyddiad trosglwyddo ac wedyn gan y trosglwyddwr yn ogystal â'r trosglwyddai (boed hynny ar y cyd neu fel arall).

(3Yn yr Atodlen hon, mae unrhyw gyfeiriad at unrhyw beth a wneir gan drosglwyddwr neu mewn perthynas ag ef yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw beth a gaiff ei drin, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad, fel pe bai wedi ei wneud gan neu mewn perthynas â'r trosglwyddwr hwnnw.

Parhad o ran ymarfer y swyddogaethau

2.—(1Nid oes yr un o'r pethau a ganlyn, hynny yw—

(a)dileu CCGC,

(b)trosglwyddo, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw swyddogaeth gan y Gorchymyn hwn, nac

(c)trosglwyddo unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau gan y Gorchymyn hwn,

yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir cyn i'r dileu, y trosglwyddo, yr addasu, y diddymu neu'r dirymu gael effaith.

(2Caiff unrhyw beth (yn cynnwys, heb gyfyngiad, achos cyfreithiol) sydd, ar y dyddiad trosglwyddo, yn y broses o gael ei wneud gan neu mewn perthynas â throsglwyddwr i ymarfer swyddogaeth drosglwyddedig, neu mewn cysylltiad â swyddogaeth drosglwyddedig, gael ei barhau gan neu mewn perthynas â'r trosglwyddai.

(3Mae unrhyw beth a wneir gan neu mewn perthynas â throsglwyddwr cyn y dyddiad trosglwyddo i ymarfer swyddogaeth drosglwyddedig, neu mewn cysylltiad â swyddogaeth drosglwyddedig, i'r graddau y mae'n ofynnol er mwyn parhau â'i effaith ar y dyddiad hwnnw ac wedyn, yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud gan neu mewn perthynas â'r trosglwyddai.

(4Mae unrhyw gyfeiriad at drosglwyddwr (ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at drosglwyddwr) mewn unrhyw ddogfen y mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys iddi, neu sy'n ymwneud ag unrhyw beth y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys iddo, i'r graddau y mae'n ofynnol er mwyn rhoi effaith i'r darpariaethau hynny, i'w drin fel cyfeiriad at y trosglwyddai.

3.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan roddwyd swyddogaeth (“yr hen swyddogaeth”) i CCGC gan Ran 7 o Ddeddf 1990 neu unrhyw ddarpariaeth arall a ddiddymir gan y Gorchymyn hwn;

(b)pan roddir swyddogaeth gyfatebol (“y swyddogaeth newydd”) i'r Corff gan unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn Sefydlu (fel y'i diwygir gan y Gorchymyn hwn).

(2Caiff unrhyw beth (yn cynnwys, heb gyfyngiad, achos cyfreithiol) sydd, ar y dyddiad trosglwyddo, yn y broses o gael ei wneud mewn perthynas â'r hen swyddogaeth gael ei barhau mewn perthynas â'r swyddogaeth newydd.

(3Mae unrhyw beth a wnaed mewn perthynas â'r hen swyddogaeth yn cael effaith fel pe bai'n cael ei wneud mewn perthynas â'r swyddogaeth newydd, i'r graddau y mae'n ofynnol er mwyn parhau â'i effaith ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny.

(4Mae unrhyw gyfeiriad at CCGC (ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at CCGC) mewn unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r hen swyddogaeth, i'w drin fel cyfeiriad at y Corff, i'r graddau y mae'n ofynnol er mwyn rhoi effaith i'r paragraff hwn.

4.  Nid yw darpariaethau'r Rhan hon—

(a)yn rhagfarnu unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn mewn perthynas ag unrhyw swyddogaethau penodol;

(b)i gael eu trin fel pe baent yn peri i unrhyw gontract cyflogaeth a wneir gan drosglwyddwr barhau mewn grym.