ATODLEN 7DARPARIAETHAU TROSIANNOL AC ARBEDION

RHAN 1Darpariaethau cyffredinol

DehongliI11

1

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Ebrill 2013;

  • ystyr “swyddogaeth drosglwyddedig” (“transferred function”) yw unrhyw swyddogaeth sydd, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn, yn dod yn arferadwy ar y dyddiad trosglwyddo gan gorff neu berson ac eithrio'r corff neu'r person yr oedd yn arferadwy ganddo yn union cyn y dyddiad hwnnw;

  • ystyr “trosglwyddai” (“transferee”) yw y corff neu'r person y daw swyddogaeth drosglwyddedig yn arferadwy ganddo ar y dyddiad trosglwyddo;

  • ystyr “trosglwyddwr” (“transferor”) yw y corff neu'r person yr oedd swyddogaeth drosglwyddedig yn arferadwy ganddo yn union cyn y dyddiad trosglwyddo.

2

At ddibenion y diffiniad o “swyddogaeth drosglwyddedig”, nid yw o bwys bod swyddogaeth yn dal yn arferadwy ar y dyddiad trosglwyddo ac wedyn gan y trosglwyddwr yn ogystal â'r trosglwyddai (boed hynny ar y cyd neu fel arall).

3

Yn yr Atodlen hon, mae unrhyw gyfeiriad at unrhyw beth a wneir gan drosglwyddwr neu mewn perthynas ag ef yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw beth a gaiff ei drin, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad, fel pe bai wedi ei wneud gan neu mewn perthynas â'r trosglwyddwr hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

Parhad o ran ymarfer y swyddogaethau

I22

1

Nid oes yr un o'r pethau a ganlyn, hynny yw—

a

dileu CCGC,

b

trosglwyddo, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw swyddogaeth gan y Gorchymyn hwn, nac

c

trosglwyddo unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau gan y Gorchymyn hwn,

yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir cyn i'r dileu, y trosglwyddo, yr addasu, y diddymu neu'r dirymu gael effaith.

2

Caiff unrhyw beth (yn cynnwys, heb gyfyngiad, achos cyfreithiol) sydd, ar y dyddiad trosglwyddo, yn y broses o gael ei wneud gan neu mewn perthynas â throsglwyddwr i ymarfer swyddogaeth drosglwyddedig, neu mewn cysylltiad â swyddogaeth drosglwyddedig, gael ei barhau gan neu mewn perthynas â'r trosglwyddai.

3

Mae unrhyw beth a wneir gan neu mewn perthynas â throsglwyddwr cyn y dyddiad trosglwyddo i ymarfer swyddogaeth drosglwyddedig, neu mewn cysylltiad â swyddogaeth drosglwyddedig, i'r graddau y mae'n ofynnol er mwyn parhau â'i effaith ar y dyddiad hwnnw ac wedyn, yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud gan neu mewn perthynas â'r trosglwyddai.

4

Mae unrhyw gyfeiriad at drosglwyddwr (ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at drosglwyddwr) mewn unrhyw ddogfen y mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys iddi, neu sy'n ymwneud ag unrhyw beth y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys iddo, i'r graddau y mae'n ofynnol er mwyn rhoi effaith i'r darpariaethau hynny, i'w drin fel cyfeiriad at y trosglwyddai.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

I33

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys—

a

pan roddwyd swyddogaeth (“yr hen swyddogaeth”) i CCGC gan Ran 7 o Ddeddf 1990 neu unrhyw ddarpariaeth arall a ddiddymir gan y Gorchymyn hwn;

b

pan roddir swyddogaeth gyfatebol (“y swyddogaeth newydd”) i'r Corff gan unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn Sefydlu (fel y'i diwygir gan y Gorchymyn hwn).

2

Caiff unrhyw beth (yn cynnwys, heb gyfyngiad, achos cyfreithiol) sydd, ar y dyddiad trosglwyddo, yn y broses o gael ei wneud mewn perthynas â'r hen swyddogaeth gael ei barhau mewn perthynas â'r swyddogaeth newydd.

3

Mae unrhyw beth a wnaed mewn perthynas â'r hen swyddogaeth yn cael effaith fel pe bai'n cael ei wneud mewn perthynas â'r swyddogaeth newydd, i'r graddau y mae'n ofynnol er mwyn parhau â'i effaith ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny.

4

Mae unrhyw gyfeiriad at CCGC (ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at CCGC) mewn unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r hen swyddogaeth, i'w drin fel cyfeiriad at y Corff, i'r graddau y mae'n ofynnol er mwyn rhoi effaith i'r paragraff hwn.

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

I44

Nid yw darpariaethau'r Rhan hon—

a

yn rhagfarnu unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn mewn perthynas ag unrhyw swyddogaethau penodol;

b

i gael eu trin fel pe baent yn peri i unrhyw gontract cyflogaeth a wneir gan drosglwyddwr barhau mewn grym.