ATODLEN 7DARPARIAETHAU TROSIANNOL AC ARBEDION
RHAN 2Cyfarwyddiadau
Cyfarwyddiadau cyffredinolI15
1
Mae cyfarwyddyd a roddwyd o dan adran 3(1) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949176 neu adran 131(4) o Ddeddf 1990 cyn y dyddiad trosglwyddo i'w drin ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny fel cyfarwyddyd a roddir i'r Corff o dan erthygl 11(1) o'r Gorchymyn Sefydlu.
2
Mae cyfarwyddyd a roddwyd at ddibenion adran 1(4) o Ddeddf Coedwigaeth 1967177 cyn y dyddiad trosglwyddo, i'w drin, i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â swyddogaeth a ddaw'n arferadwy gan y Corff yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn, ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny, fel cyfarwyddyd a roddwyd i'r Corff o dan erthygl 11(1) o'r Gorchymyn Sefydlu.
3
Mae cyfarwyddyd a roddwyd o dan adran 40(1) o Ddeddf 1995 cyn y dyddiad trosglwyddo, i'w drin, i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â swyddogaeth drosglwyddedig, ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny, fel cyfarwyddyd a roddwyd i'r Corff o dan erthygl 11(1) o'r Gorchymyn Sefydlu.
4
Mae cyfarwyddyd a roddwyd o dan adran 40(2) o Ddeddf 1995 cyn y dyddiad trosglwyddo, i'w drin, i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru, ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny fel cyfarwyddyd a roddwyd i'r Corff o dan erthygl 11(3) o'r Gorchymyn Sefydlu (fel y'i hamnewidiwyd gan y Gorchymyn hwn) ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Rhan hon mewn perthynas â chyfarwyddiadau penodol.
Cyfarwyddyd Dosbarthu Dŵr Wyneb a Dŵr Daear Ardaloedd Basn Afon (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2009I26
1
Mae Cyfarwyddyd Dosbarthu Dŵr Wyneb a Dŵr Daear Ardaloedd Basn Afon (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2009 i'w drin ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny fel cyfarwyddyd a roddir i'r asiantaeth briodol—
a
o dan erthygl 11(3) o'r Gorchymyn Sefydlu (fel y'i hamnewidiwyd gan y Gorchymyn hwn) i'r graddau y mae'r cyfarwyddyd yn gymwys pan yr asiantaeth briodol yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
b
o dan adran 40(2) o Ddeddf 1995 i'r graddau y mae'r cyfarwyddyd yn gymwys pan yr asiantaeth briodol yw Asiantaeth yr Amgylchedd;
c
o dan erthygl 11(3) o'r Gorchymyn Sefydlu178 (fel y'i hamnewidiwyd gan y Gorchymyn hwn) ac o dan adran 40(2) o Ddeddf 1995 i'r graddau y mae'r cyfarwyddyd yn gymwys pan yr asiantaeth briodol yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithredu ar y cyd.
2
Yn y paragraff hwn, mae i “asiantaeth briodol” yr un ystyr ag “appropriate agency” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Amgylchedd Dŵr (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2003 fel y'u diwygiwyd gan y Gorchymyn hwn.
Cyfarwyddiadau Teipoleg, Safonau a gwerthoedd trothwy Dŵr Daear Ardaloedd Basn Afon (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2010I37
1
Mae Cyfarwyddiadau Teipoleg, Safonau a gwerthoedd trothwy Dŵr Daear Ardaloedd Basn Afon (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2010 i gael eu trin, ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny, fel cyfarwyddiadau a roddir i'r asiantaeth briodol—
a
o dan erthyglau 11(3) ac 11A(3) o'r Gorchymyn Sefydlu (fel y'i hamnewidiwyd gan Gorchymyn hwn) i'r graddau y mae'r cyfarwyddiadau'n gymwys pan yr asiantaeth briodol yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
b
o dan adrannau 40(2) a 122(2) o Ddeddf 1995 i'r graddau y mae'r cyfarwyddiadau'n gymwys pan yr asiantaeth briodol yw Asiantaeth yr Amgylchedd; ac
c
o dan erthyglau 11(3) ac 11A(3) o'r Gorchymyn Sefydlu (fel y'i amnewidiwyd gan y Gorchymyn hwn) ac o dan adrannau 40(2) a 122(2) o Ddeddf 1995 i'r graddau y mae'r cyfarwyddiadau'n gymwys pan yr asiantaeth briodol yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithredu ar y cyd.
2
Yn y paragraff hwn, mae i “asiantaeth briodol” yr un ystyr ag “appropriate agency” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Amgylchedd Dŵr (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2003 fel y'u diwygiwyd gan y Gorchymyn hwn.