ATODLEN 7DARPARIAETHAU TROSIANNOL AC ARBEDION

RHAN 3Darpariaethau'n ymwneud â diwygiadau i ddeddfiadau penodol

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 19908

Er bod y Gorchymyn hwn yn diddymu Atodlenni 8 a 9 i Ddeddf 1990, mae'r diwygiadau a wnaed gan yr Atodlenni hynny i Ddeddfau eraill yn dal i gael effaith i'r graddau yr oeddent yn cael effaith yn union cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, yn ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiadau i'r Deddfau eraill hynny a wnaed gan y Gorchymyn hwn.

Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 19999

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion rheoliad 7(11) o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999179.

2

Pan fo—

a

adroddiad diogelwch yn cael ei anfon at yr awdurdod cymwys mewn perthynas â sefydliad yng Nghymru;

b

yr adroddiad diogelwch hwnnw yn cynnwys gwybodaeth sy'n cyfeirio at wybodaeth mewn adroddiad neu hysbysiad arall a anfonwyd at Asiantaeth yr Amgylchedd yn unol â gofynion a osodwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad; ac

c

yr adroddiad neu'r hysbysiad arall wedi ei anfon at Asiantaeth yr Amgylchedd cyn y dyddiad trosglwyddo;

yna, ystyrir bod yr adroddiad neu'r hysbysiad a anfonwyd at Asiantaeth yr Amgylchedd wedi ei anfon at yr asiantaeth briodol.

3

Yn y paragraff hwn, mae i “asiantaeth briodol”, “sefydliad”, “hysbysiad” ac “adroddiad diogelwch” yr ystyron a roddir i “appropriate agency”, “establishment”, “notification” a “safety report” yn eu tro gan reoliad 2(1) o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999 fel y'u diwygiwyd gan y Gorchymyn hwn.

Rheoliadau Defnyddiau Atgynhyrchiol y Goedwig (Prydain Fawr) 200210

1

Mae person sy'n swyddog awdurdodedig at ddibenion Rheoliadau Defnyddiau Atgynhyrchiol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002180 yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei ystyried yn swyddog awdurdodedig wedi hynny yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ei awdurdodi gan y Comisiynwyr a chan Weinidogion Cymru.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar bwerau'r Comisiynwyr na Gweinidogion Cymru i ddirymu, ar y dyddiad trosglwyddo neu wedi hynny, unrhyw awdurdodiad sydd gan berson neu i adnewyddu'r awdurdodiad hwnnw wedi hynny.

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 200511

1

Mae person sy'n arolygydd at ddibenion Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005181 yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei ystyried yn arolygydd wedi hynny yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ei awdurdodi gan y Comisiynwyr a chan Weinidogion Cymru.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar bwerau'r Comisiynwyr na Gweinidogion Cymru i ddirymu, ar y dyddiad trosglwyddo neu wedi hynny, unrhyw awdurdodiad sydd gan berson neu i adnewyddu'r awdurdodiad hwnnw wedi hynny.

Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 201012

1

Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008;

  • ystyr “Gorchymyn 2010” (“the 2010 Order”) yw Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010182 fel y'i diwygiwyd gan y Gorchymyn hwn.

2

Mae adran 67 o Ddeddf 2008 yn gymwys i Orchymyn 2010—

a

fel pe bai cyfnod o un flwyddyn wedi ei roi yn lle cyfnod o dair blynedd yn is-adran (2); a

b

fel pe bai unrhyw ddarpariaeth yng Ngorchymyn 2010 i roi pŵer i reoleiddiwr i osod sancsiwn sifil ar gyfer trosedd—

i

wedi ei gwneud o dan neu yn rhinwedd Rhan 3 o Ddeddf 2008; a

ii

wedi dod i rym ar y dyddiad trosglwyddo.