ATODLEN 7DARPARIAETHAU TROSIANNOL AC ARBEDION
RHAN 3Darpariaethau'n ymwneud â diwygiadau i ddeddfiadau penodol
Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990I18
Er bod y Gorchymyn hwn yn diddymu Atodlenni 8 a 9 i Ddeddf 1990, mae'r diwygiadau a wnaed gan yr Atodlenni hynny i Ddeddfau eraill yn dal i gael effaith i'r graddau yr oeddent yn cael effaith yn union cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, yn ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiadau i'r Deddfau eraill hynny a wnaed gan y Gorchymyn hwn.
Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999I29
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion rheoliad 7(11) o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999179.
2
Pan fo—
a
adroddiad diogelwch yn cael ei anfon at yr awdurdod cymwys mewn perthynas â sefydliad yng Nghymru;
b
yr adroddiad diogelwch hwnnw yn cynnwys gwybodaeth sy'n cyfeirio at wybodaeth mewn adroddiad neu hysbysiad arall a anfonwyd at Asiantaeth yr Amgylchedd yn unol â gofynion a osodwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad; ac
c
yr adroddiad neu'r hysbysiad arall wedi ei anfon at Asiantaeth yr Amgylchedd cyn y dyddiad trosglwyddo;
yna, ystyrir bod yr adroddiad neu'r hysbysiad a anfonwyd at Asiantaeth yr Amgylchedd wedi ei anfon at yr asiantaeth briodol.
3
Yn y paragraff hwn, mae i “asiantaeth briodol”, “sefydliad”, “hysbysiad” ac “adroddiad diogelwch” yr ystyron a roddir i “appropriate agency”, “establishment”, “notification” a “safety report” yn eu tro gan reoliad 2(1) o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999 fel y'u diwygiwyd gan y Gorchymyn hwn.
Rheoliadau Defnyddiau Atgynhyrchiol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002I310
1
Mae person sy'n swyddog awdurdodedig at ddibenion Rheoliadau Defnyddiau Atgynhyrchiol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002180 yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei ystyried yn swyddog awdurdodedig wedi hynny yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ei awdurdodi gan y Comisiynwyr a chan Weinidogion Cymru.
2
Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar bwerau'r Comisiynwyr na Gweinidogion Cymru i ddirymu, ar y dyddiad trosglwyddo neu wedi hynny, unrhyw awdurdodiad sydd gan berson neu i adnewyddu'r awdurdodiad hwnnw wedi hynny.
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005I411
1
Mae person sy'n arolygydd at ddibenion Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005181 yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei ystyried yn arolygydd wedi hynny yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ei awdurdodi gan y Comisiynwyr a chan Weinidogion Cymru.
2
Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar bwerau'r Comisiynwyr na Gweinidogion Cymru i ddirymu, ar y dyddiad trosglwyddo neu wedi hynny, unrhyw awdurdodiad sydd gan berson neu i adnewyddu'r awdurdodiad hwnnw wedi hynny.
Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010I512
1
Yn y paragraff hwn—
ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008;
ystyr “Gorchymyn 2010” (“the 2010 Order”) yw Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010182 fel y'i diwygiwyd gan y Gorchymyn hwn.
2
Mae adran 67 o Ddeddf 2008 yn gymwys i Orchymyn 2010—
a
fel pe bai cyfnod o un flwyddyn wedi ei roi yn lle cyfnod o dair blynedd yn is-adran (2); a
b
fel pe bai unrhyw ddarpariaeth yng Ngorchymyn 2010 i roi pŵer i reoleiddiwr i osod sancsiwn sifil ar gyfer trosedd—
i
wedi ei gwneud o dan neu yn rhinwedd Rhan 3 o Ddeddf 2008; a
ii
wedi dod i rym ar y dyddiad trosglwyddo.