ATODLEN 7DARPARIAETHAU TROSIANNOL AC ARBEDION

RHAN 4Darpariaethau'n ymwneud â dileu CCGC

Dehongli13

Yn y Rhan hon, ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw'r cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2013.

Datganiad terfynol o gyfrifon mewn perthynas â CCGC14

1

Rhaid i'r Corff baratoi datganiad o gyfrifon mewn perthynas â CCGC ar gyfer y cyfnod perthnasol.

2

Rhaid i'r Corff gyflwyno'r datganiad o gyfrifon i Weinidogion Cymru ar ba ffurf bynnag a phryd bynnag a gyfarwyddir ganddynt.

3

Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o'r datganiad o gyfrifon at Archwilydd Cyffredinol Cymru ar 31 Awst 2013 neu cyn hynny.

4

Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

a

archwilio ac ardystio'r datganiad o gyfrifon ac adrodd arno;

b

rhoi copi o'r datganiad ardystiedig o gyfrifon ynghyd â'i adroddiad arno i'r Corff; ac

c

heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i'r datganiad o gyfrifon gael ei gyflwyno, gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gopi o'r datganiad ardystiedig o gyfrifon a'r adroddiad.

Adroddiad terfynol mewn perthynas â CCGC15

1

Rhaid i'r Corff baratoi, ar gyfer Gweinidogion Cymru, adroddiad ar y ffordd y cafodd swyddogaethau CCGC eu harfer a'u cyflawni yn ystod y cyfnod perthnasol.

2

Rhaid i'r Corff gyflwyno'r adroddiad i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo modd ar ôl 31 Mawrth 2013.

3

Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.