xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 7DARPARIAETHAU TROSIANNOL AC ARBEDION

RHAN 4Darpariaethau'n ymwneud â dileu CCGC

Dehongli

13.  Yn y Rhan hon, ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw'r cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2013.

Datganiad terfynol o gyfrifon mewn perthynas â CCGC

14.—(1Rhaid i'r Corff baratoi datganiad o gyfrifon mewn perthynas â CCGC ar gyfer y cyfnod perthnasol.

(2Rhaid i'r Corff gyflwyno'r datganiad o gyfrifon i Weinidogion Cymru ar ba ffurf bynnag a phryd bynnag a gyfarwyddir ganddynt.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o'r datganiad o gyfrifon at Archwilydd Cyffredinol Cymru ar 31 Awst 2013 neu cyn hynny.

(4Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio ac ardystio'r datganiad o gyfrifon ac adrodd arno;

(b)rhoi copi o'r datganiad ardystiedig o gyfrifon ynghyd â'i adroddiad arno i'r Corff; ac

(c)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i'r datganiad o gyfrifon gael ei gyflwyno, gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gopi o'r datganiad ardystiedig o gyfrifon a'r adroddiad.

Adroddiad terfynol mewn perthynas â CCGC

15.—(1Rhaid i'r Corff baratoi, ar gyfer Gweinidogion Cymru, adroddiad ar y ffordd y cafodd swyddogaethau CCGC eu harfer a'u cyflawni yn ystod y cyfnod perthnasol.

(2Rhaid i'r Corff gyflwyno'r adroddiad i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo modd ar ôl 31 Mawrth 2013.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.