xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
13. Yn y Rhan hon, ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw'r cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2013.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 13 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)
14.—(1) Rhaid i'r Corff baratoi datganiad o gyfrifon mewn perthynas â CCGC ar gyfer y cyfnod perthnasol.
(2) Rhaid i'r Corff gyflwyno'r datganiad o gyfrifon i Weinidogion Cymru ar ba ffurf bynnag a phryd bynnag a gyfarwyddir ganddynt.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o'r datganiad o gyfrifon at Archwilydd Cyffredinol Cymru ar 31 Awst 2013 neu cyn hynny.
(4) Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a)archwilio ac ardystio'r datganiad o gyfrifon ac adrodd arno;
(b)rhoi copi o'r datganiad ardystiedig o gyfrifon ynghyd â'i adroddiad arno i'r Corff; ac
(c)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i'r datganiad o gyfrifon gael ei gyflwyno, gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gopi o'r datganiad ardystiedig o gyfrifon a'r adroddiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 7 para. 14 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)
15.—(1) Rhaid i'r Corff baratoi, ar gyfer Gweinidogion Cymru, adroddiad ar y ffordd y cafodd swyddogaethau CCGC eu harfer a'u cyflawni yn ystod y cyfnod perthnasol.
(2) Rhaid i'r Corff gyflwyno'r adroddiad i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo modd ar ôl 31 Mawrth 2013.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 7 para. 15 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)