Erthygl 10

ATODLEN 7LL+CDARPARIAETHAU TROSIANNOL AC ARBEDION

RHAN 1LL+CDarpariaethau cyffredinol

DehongliLL+C

1.—(1Yn yr Atodlen hon—

ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Ebrill 2013;

ystyr “swyddogaeth drosglwyddedig” (“transferred function”) yw unrhyw swyddogaeth sydd, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn, yn dod yn arferadwy ar y dyddiad trosglwyddo gan gorff neu berson ac eithrio'r corff neu'r person yr oedd yn arferadwy ganddo yn union cyn y dyddiad hwnnw;

ystyr “trosglwyddai” (“transferee”) yw y corff neu'r person y daw swyddogaeth drosglwyddedig yn arferadwy ganddo ar y dyddiad trosglwyddo;

ystyr “trosglwyddwr” (“transferor”) yw y corff neu'r person yr oedd swyddogaeth drosglwyddedig yn arferadwy ganddo yn union cyn y dyddiad trosglwyddo.

(2At ddibenion y diffiniad o “swyddogaeth drosglwyddedig”, nid yw o bwys bod swyddogaeth yn dal yn arferadwy ar y dyddiad trosglwyddo ac wedyn gan y trosglwyddwr yn ogystal â'r trosglwyddai (boed hynny ar y cyd neu fel arall).

(3Yn yr Atodlen hon, mae unrhyw gyfeiriad at unrhyw beth a wneir gan drosglwyddwr neu mewn perthynas ag ef yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw beth a gaiff ei drin, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad, fel pe bai wedi ei wneud gan neu mewn perthynas â'r trosglwyddwr hwnnw.

Parhad o ran ymarfer y swyddogaethauLL+C

2.—(1Nid oes yr un o'r pethau a ganlyn, hynny yw—

(a)dileu CCGC,

(b)trosglwyddo, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw swyddogaeth gan y Gorchymyn hwn, nac

(c)trosglwyddo unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau gan y Gorchymyn hwn,

yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir cyn i'r dileu, y trosglwyddo, yr addasu, y diddymu neu'r dirymu gael effaith.

(2Caiff unrhyw beth (yn cynnwys, heb gyfyngiad, achos cyfreithiol) sydd, ar y dyddiad trosglwyddo, yn y broses o gael ei wneud gan neu mewn perthynas â throsglwyddwr i ymarfer swyddogaeth drosglwyddedig, neu mewn cysylltiad â swyddogaeth drosglwyddedig, gael ei barhau gan neu mewn perthynas â'r trosglwyddai.

(3Mae unrhyw beth a wneir gan neu mewn perthynas â throsglwyddwr cyn y dyddiad trosglwyddo i ymarfer swyddogaeth drosglwyddedig, neu mewn cysylltiad â swyddogaeth drosglwyddedig, i'r graddau y mae'n ofynnol er mwyn parhau â'i effaith ar y dyddiad hwnnw ac wedyn, yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud gan neu mewn perthynas â'r trosglwyddai.

(4Mae unrhyw gyfeiriad at drosglwyddwr (ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at drosglwyddwr) mewn unrhyw ddogfen y mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys iddi, neu sy'n ymwneud ag unrhyw beth y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys iddo, i'r graddau y mae'n ofynnol er mwyn rhoi effaith i'r darpariaethau hynny, i'w drin fel cyfeiriad at y trosglwyddai.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

3.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan roddwyd swyddogaeth (“yr hen swyddogaeth”) i CCGC gan Ran 7 o Ddeddf 1990 neu unrhyw ddarpariaeth arall a ddiddymir gan y Gorchymyn hwn;

(b)pan roddir swyddogaeth gyfatebol (“y swyddogaeth newydd”) i'r Corff gan unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn Sefydlu (fel y'i diwygir gan y Gorchymyn hwn).

(2Caiff unrhyw beth (yn cynnwys, heb gyfyngiad, achos cyfreithiol) sydd, ar y dyddiad trosglwyddo, yn y broses o gael ei wneud mewn perthynas â'r hen swyddogaeth gael ei barhau mewn perthynas â'r swyddogaeth newydd.

(3Mae unrhyw beth a wnaed mewn perthynas â'r hen swyddogaeth yn cael effaith fel pe bai'n cael ei wneud mewn perthynas â'r swyddogaeth newydd, i'r graddau y mae'n ofynnol er mwyn parhau â'i effaith ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny.

(4Mae unrhyw gyfeiriad at CCGC (ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at CCGC) mewn unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r hen swyddogaeth, i'w drin fel cyfeiriad at y Corff, i'r graddau y mae'n ofynnol er mwyn rhoi effaith i'r paragraff hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

4.  Nid yw darpariaethau'r Rhan hon—

(a)yn rhagfarnu unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn mewn perthynas ag unrhyw swyddogaethau penodol;

(b)i gael eu trin fel pe baent yn peri i unrhyw gontract cyflogaeth a wneir gan drosglwyddwr barhau mewn grym.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 7 para. 4 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

RHAN 2LL+CCyfarwyddiadau

Cyfarwyddiadau cyffredinolLL+C

5.—(1Mae cyfarwyddyd a roddwyd o dan adran 3(1) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(1) neu adran 131(4) o Ddeddf 1990 cyn y dyddiad trosglwyddo i'w drin ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny fel cyfarwyddyd a roddir i'r Corff o dan erthygl 11(1) o'r Gorchymyn Sefydlu.

(2Mae cyfarwyddyd a roddwyd at ddibenion adran 1(4) o Ddeddf Coedwigaeth 1967(2) cyn y dyddiad trosglwyddo, i'w drin, i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â swyddogaeth a ddaw'n arferadwy gan y Corff yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn, ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny, fel cyfarwyddyd a roddwyd i'r Corff o dan erthygl 11(1) o'r Gorchymyn Sefydlu.

(3Mae cyfarwyddyd a roddwyd o dan adran 40(1) o Ddeddf 1995 cyn y dyddiad trosglwyddo, i'w drin, i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â swyddogaeth drosglwyddedig, ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny, fel cyfarwyddyd a roddwyd i'r Corff o dan erthygl 11(1) o'r Gorchymyn Sefydlu.

(4Mae cyfarwyddyd a roddwyd o dan adran 40(2) o Ddeddf 1995 cyn y dyddiad trosglwyddo, i'w drin, i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru, ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny fel cyfarwyddyd a roddwyd i'r Corff o dan erthygl 11(3) o'r Gorchymyn Sefydlu (fel y'i hamnewidiwyd gan y Gorchymyn hwn) ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Rhan hon mewn perthynas â chyfarwyddiadau penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 7 para. 5 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

Cyfarwyddyd Dosbarthu Dŵr Wyneb a Dŵr Daear Ardaloedd Basn Afon (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2009LL+C

6.—(1Mae Cyfarwyddyd Dosbarthu Dŵr Wyneb a Dŵr Daear Ardaloedd Basn Afon (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2009 i'w drin ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny fel cyfarwyddyd a roddir i'r asiantaeth briodol—

(a)o dan erthygl 11(3) o'r Gorchymyn Sefydlu (fel y'i hamnewidiwyd gan y Gorchymyn hwn) i'r graddau y mae'r cyfarwyddyd yn gymwys pan yr asiantaeth briodol yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

(b)o dan adran 40(2) o Ddeddf 1995 i'r graddau y mae'r cyfarwyddyd yn gymwys pan yr asiantaeth briodol yw Asiantaeth yr Amgylchedd;

(c)o dan erthygl 11(3) o'r Gorchymyn Sefydlu(3) (fel y'i hamnewidiwyd gan y Gorchymyn hwn) ac o dan adran 40(2) o Ddeddf 1995 i'r graddau y mae'r cyfarwyddyd yn gymwys pan yr asiantaeth briodol yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithredu ar y cyd.

(2Yn y paragraff hwn, mae i “asiantaeth briodol” yr un ystyr ag “appropriate agency” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Amgylchedd Dŵr (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2003 fel y'u diwygiwyd gan y Gorchymyn hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 7 para. 6 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

Cyfarwyddiadau Teipoleg, Safonau a gwerthoedd trothwy Dŵr Daear Ardaloedd Basn Afon (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2010LL+C

7.—(1Mae Cyfarwyddiadau Teipoleg, Safonau a gwerthoedd trothwy Dŵr Daear Ardaloedd Basn Afon (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2010 i gael eu trin, ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny, fel cyfarwyddiadau a roddir i'r asiantaeth briodol—

(a)o dan erthyglau 11(3) ac 11A(3) o'r Gorchymyn Sefydlu (fel y'i hamnewidiwyd gan Gorchymyn hwn) i'r graddau y mae'r cyfarwyddiadau'n gymwys pan yr asiantaeth briodol yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

(b)o dan adrannau 40(2) a 122(2) o Ddeddf 1995 i'r graddau y mae'r cyfarwyddiadau'n gymwys pan yr asiantaeth briodol yw Asiantaeth yr Amgylchedd; ac

(c)o dan erthyglau 11(3) ac 11A(3) o'r Gorchymyn Sefydlu (fel y'i amnewidiwyd gan y Gorchymyn hwn) ac o dan adrannau 40(2) a 122(2) o Ddeddf 1995 i'r graddau y mae'r cyfarwyddiadau'n gymwys pan yr asiantaeth briodol yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithredu ar y cyd.

(2Yn y paragraff hwn, mae i “asiantaeth briodol” yr un ystyr ag “appropriate agency” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Amgylchedd Dŵr (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2003 fel y'u diwygiwyd gan y Gorchymyn hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 7 para. 7 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

RHAN 3LL+CDarpariaethau'n ymwneud â diwygiadau i ddeddfiadau penodol

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990LL+C

8.  Er bod y Gorchymyn hwn yn diddymu Atodlenni 8 a 9 i Ddeddf 1990, mae'r diwygiadau a wnaed gan yr Atodlenni hynny i Ddeddfau eraill yn dal i gael effaith i'r graddau yr oeddent yn cael effaith yn union cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, yn ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiadau i'r Deddfau eraill hynny a wnaed gan y Gorchymyn hwn.

Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999LL+C

9.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion rheoliad 7(11) o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999(4).

(2Pan fo—

(a)adroddiad diogelwch yn cael ei anfon at yr awdurdod cymwys mewn perthynas â sefydliad yng Nghymru;

(b)yr adroddiad diogelwch hwnnw yn cynnwys gwybodaeth sy'n cyfeirio at wybodaeth mewn adroddiad neu hysbysiad arall a anfonwyd at Asiantaeth yr Amgylchedd yn unol â gofynion a osodwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad; ac

(c)yr adroddiad neu'r hysbysiad arall wedi ei anfon at Asiantaeth yr Amgylchedd cyn y dyddiad trosglwyddo;

yna, ystyrir bod yr adroddiad neu'r hysbysiad a anfonwyd at Asiantaeth yr Amgylchedd wedi ei anfon at yr asiantaeth briodol.

(3Yn y paragraff hwn, mae i “asiantaeth briodol”, “sefydliad”, “hysbysiad” ac “adroddiad diogelwch” yr ystyron a roddir i “appropriate agency”, “establishment”, “notification” a “safety report” yn eu tro gan reoliad 2(1) o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999 fel y'u diwygiwyd gan y Gorchymyn hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 7 para. 9 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

Rheoliadau Defnyddiau Atgynhyrchiol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002LL+C

10.—(1Mae person sy'n swyddog awdurdodedig at ddibenion Rheoliadau Defnyddiau Atgynhyrchiol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002(5) yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei ystyried yn swyddog awdurdodedig wedi hynny yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ei awdurdodi gan y Comisiynwyr a chan Weinidogion Cymru.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar bwerau'r Comisiynwyr na Gweinidogion Cymru i ddirymu, ar y dyddiad trosglwyddo neu wedi hynny, unrhyw awdurdodiad sydd gan berson neu i adnewyddu'r awdurdodiad hwnnw wedi hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 7 para. 10 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005LL+C

11.—(1Mae person sy'n arolygydd at ddibenion Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005(6) yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei ystyried yn arolygydd wedi hynny yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ei awdurdodi gan y Comisiynwyr a chan Weinidogion Cymru.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar bwerau'r Comisiynwyr na Gweinidogion Cymru i ddirymu, ar y dyddiad trosglwyddo neu wedi hynny, unrhyw awdurdodiad sydd gan berson neu i adnewyddu'r awdurdodiad hwnnw wedi hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 7 para. 11 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010LL+C

12.—(1Yn y paragraff hwn—

ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008;

ystyr “Gorchymyn 2010” (“the 2010 Order”) yw Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010(7) fel y'i diwygiwyd gan y Gorchymyn hwn.

(2Mae adran 67 o Ddeddf 2008 yn gymwys i Orchymyn 2010—

(a)fel pe bai cyfnod o un flwyddyn wedi ei roi yn lle cyfnod o dair blynedd yn is-adran (2); a

(b)fel pe bai unrhyw ddarpariaeth yng Ngorchymyn 2010 i roi pŵer i reoleiddiwr i osod sancsiwn sifil ar gyfer trosedd—

(i)wedi ei gwneud o dan neu yn rhinwedd Rhan 3 o Ddeddf 2008; a

(ii)wedi dod i rym ar y dyddiad trosglwyddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 7 para. 12 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

RHAN 4LL+CDarpariaethau'n ymwneud â dileu CCGC

DehongliLL+C

13.  Yn y Rhan hon, ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw'r cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2013.

Datganiad terfynol o gyfrifon mewn perthynas â CCGCLL+C

14.—(1Rhaid i'r Corff baratoi datganiad o gyfrifon mewn perthynas â CCGC ar gyfer y cyfnod perthnasol.

(2Rhaid i'r Corff gyflwyno'r datganiad o gyfrifon i Weinidogion Cymru ar ba ffurf bynnag a phryd bynnag a gyfarwyddir ganddynt.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o'r datganiad o gyfrifon at Archwilydd Cyffredinol Cymru ar 31 Awst 2013 neu cyn hynny.

(4Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio ac ardystio'r datganiad o gyfrifon ac adrodd arno;

(b)rhoi copi o'r datganiad ardystiedig o gyfrifon ynghyd â'i adroddiad arno i'r Corff; ac

(c)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i'r datganiad o gyfrifon gael ei gyflwyno, gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gopi o'r datganiad ardystiedig o gyfrifon a'r adroddiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 7 para. 14 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

Adroddiad terfynol mewn perthynas â CCGCLL+C

15.—(1Rhaid i'r Corff baratoi, ar gyfer Gweinidogion Cymru, adroddiad ar y ffordd y cafodd swyddogaethau CCGC eu harfer a'u cyflawni yn ystod y cyfnod perthnasol.

(2Rhaid i'r Corff gyflwyno'r adroddiad i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo modd ar ôl 31 Mawrth 2013.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 7 para. 15 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)