xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Y Diwydiant Dŵr, Cymru A Lloegr
Gwnaed
2 Rhagfyr 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Rhagfyr 2014
Yn dod i rym
1 Ionawr 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 144C(4) ac 8(b) ac adran 213(2)(f) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Diwydiant Dŵr (Ymgymerwyr sy’n Gyfan Gwbl neu’n Bennaf yng Nghymru) (Gwybodaeth am Feddianwyr nad ydynt yn Berchenogion) 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir gan ymgymerwr y mae ei ardal yng Nghymru yn gyfan gwbl neu’n bennaf.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2015.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y diwrnod cychwyn” (“the commencement day”) yw’r dyddiad y mae’r ddyletswydd yn gymwys o ganlyniad i erthygl 2 o Orchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 9) 2014(2);
ystyr “y ddyletswydd” (“the duty”) yw’r ddyletswydd a osodir yn rhinwedd adran 144C(2) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.
3.—(1) Mae’r wybodaeth sydd i gael ei rhoi gan y perchennog i’r ymgymerwr am y meddianwyr fel a ganlyn—
(a)eu henwau llawn;
(b)eu dyddiadau geni (pan fo’r wybodaeth honno wedi ei darparu i’r perchennog);
(c)y dyddiad neu’r dyddiadau y dechreuodd y meddianwyr feddiannu’r fangre (os yw’r dyddiad hwnnw ar ôl y dyddiad cychwyn).
(2) Nid yw’r wybodaeth sydd i’w rhoi o dan baragraff (1) yn cynnwys gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw blentyn sy’n meddiannu’r fangre.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “plentyn” yw person sydd o dan 18 oed.
4. Cyn i berchennog ddarparu gwybodaeth i ymgymerwr, rhaid iddo hysbysu’r meddiannydd y bydd yr wybodaeth honno yn cael ei darparu.
5.—(1) Mae perchennog yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd os nad yw’r wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 3(1) yn cael ei rhoi o fewn 21 o ddiwrnodau i—
(a)y diwrnod cychwyn;
(b)y dyddiad y mae meddiannydd yn dechrau meddiannu’r fangre.
(2) Mae methiant perchennog yn dod i ben pan fydd yr wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 3(1) yn cael ei rhoi i’r ymgymerwr (ni waeth a roddir yr wybodaeth gan y perchennog neu gan rywun arall).
6. Rhaid i’r wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 3(1) gael ei darparu i ymgymerwr drwy’r post, dros y ffôn, dros e-bost neu drwy’r Porthol Cyfeiriadau Landlordiaid a Thenantiaid yn www.landlordtap.com.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
2 Rhagfyr 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir gan ymgymerwr y mae ei ardal yng Nghymru yn gyfan gwbl neu’n bennaf.
O dan adran 144C(2) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (p. 56), mae dyletswydd ar berchennog mangre breswyl nad yw’n byw yn y fangre honno i drefnu i’r ymgymerwr gael gwybodaeth am feddianwyr y fangre. Mae adran 144C(3) o’r Ddeddf honno yn darparu y bydd methiant gan y perchennog i ddarparu’r wybodaeth yn golygu y bydd y perchennog yn atebol gyda’r meddianwyr, ar y cyd ac yn unigol, am ffioedd dŵr a charthffosiaeth.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth sydd i gael ei rhoi am y meddianwyr ac am yr amseru a’r weithdrefn sy’n gysylltiedig â darparu’r wybodaeth honno.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1991 p. 56. Mewnosodwyd adran 144C o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (“Deddf 1991”) gan adran 45 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29). Mae’r pŵer wedi ei roi gan adran 144C(4) i “the Minister” a ddiffinnir at y dibenion hyn gan adran 144C(8)(b) o Ddeddf 1991. Mae adran 144C(8)(b) o Ddeddf 1991 hefyd yn pennu, at ddiben adran 144C, fod adran 213 yn gymwys gyda chyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol a’r naill Dŷ neu’r llall o Senedd y Deyrnas Unedig yn cael eu hystyried yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, yn y drefn honno.