xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Made
11 Rhagfyr 2014
Laid before the National Assembly for Wales
15 Rhagfyr 2014
Coming into force
5 Ionawr 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 17(1) a (2) a 24(2) o Fesur Addysg (Cymru) 2009(1):
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) (Dirymu) 2014 a deuant i rym ar 5 Ionawr 2015.
2.—(1) Mae Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) 2012(2) wedi eu dirymu.
(2) Mae erthygl 4 o Orchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2012(3) wedi ei dirymu.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
11 Rhagfyr 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) 2012 (“Rheoliadau 2012”) yn gwneud darpariaeth i dreialu darpariaethau Deddf Addysg 1996 (ar apelau anghenion addysgol arbennig) a Deddf Cydraddoldeb 2010 (ar hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd) fel y’u diwygiwyd gan Ran 1 o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (“y Mesur”). Effaith Rheoliadau 2012, o’u cyfuno â’r darpariaethau yng Ngorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2012 (“y Gorchymyn Cychwyn”) yw nad yw’r diwygiadau a wneir gan Ran 1 o’r Mesur i Ddeddf Addysg 1996 a Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gymwys ond at ddibenion treialu yn ardaloedd awdurdodau lleol Sir Caerfyrddin a Wrecsam.
Roedd Rheoliadau 2012 yn gymwys o 6 Mawrth 2012 ac roeddent yn darparu y byddent yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Mehefin 2015. Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 2012 yn eu cyfanrwydd o ddyddiad cynharach, sef 5 Ionawr 2015. Mae rheoliad 2 hefyd yn darparu bod erthygl 4 o’r Gorchymyn Cychwyn wedi ei dirymu. Roedd honno yn darparu ar gyfer parhau i gymhwyso adrannau 332A a 332B o Ddeddf Addysg 1996 i awdurdodau lleol yng Nghymru nad oeddent yn rhan o’r treialu, fel pe na bai’r diwygiadau a wnaed i’r adrannau hynny gan y Mesur mewn grym.
Effaith y dirymiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yw dod â’r treialu i ben gyda’r canlyniad bod y diwygiadau i Ddeddf Addysg 1996 a Deddf Cydraddoldeb 2010 a wneir gan Ran 1 o’r Mesur yn gymwys i’r holl awdurdodau lleol yng Nghymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2009 mccc 5. Diwygiwyd adran 17 gan erthygl 11 o Orchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1651 (Cy. 187)).