2015 Rhif 1013 (Cy. 69)
Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru
Pensiynau, Cymru
Gorchymyn Cynllun Digolledu a Chynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2015
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1
Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 34, 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 20041.
Cyn gwneud y Gorchymyn hwn, ac yn unol ag adran 34(5) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cyfryw bersonau a ystyrid ganddynt yn briodol.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: