xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 280 (Cy. 74)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Trwyddedu (morol), Cymru

Llygredd Morol, Cymru

Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd) (Cymru) 2017

Gwnaed

6 Mawrth 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Mawrth 2017

Yn dod i rym

1 Ebrill 2017

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 67(2), (3), 72A(4), 107A(3), 107B(5) a 316(1)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009(1), mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b)(2) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd) (Cymru) 2017.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2017.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009;

ystyr “gweithgaredd” (“activity”) yw gweithgaredd morol trwyddedadwy;

ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd am Geisiadau) (Cymru) 2011(3); ac

ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded forol a roddir o dan adran 71(1)(a) neu (b) o’r Ddeddf.

Cymhwyso

3.  Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw drwydded ac unrhyw gais am drwydded y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas â hwy o dan adran 113 o’r Ddeddf ac mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “yr awdurdod trwyddedu” i’w darllen yn unol â hynny.

Ffioedd ar gyfer ceisiadau am drwyddedau

4.  Mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â phenderfynu ar gais sy’n dod o fewn band a ddisgrifir yng ngholofn gyntaf paragraff 1 o Atodlen 1 wedi eu nodi yn ail golofn y paragraff hwnnw.

Ffioedd ar gyfer monitro a bodloni amodau trwydded

5.  Mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwaith monitro o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 2 mewn perthynas â thrwyddedau o ddisgrifiad a bennir yn ail golofn yr Atodlen honno wedi eu nodi yn nhrydedd golofn yr Atodlen honno.

Ffioedd ar gyfer amrywio a throsglwyddo trwyddedau

6.  Mae’r ffioedd sy’n daladwy ar gyfer penderfynu ar gais i amrywio neu drosglwyddo trwydded forol o dan yr amgylchiadau a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 3 mewn perthynas â thrwyddedau o fath a bennir yn ail golofn yr Atodlen honno wedi eu nodi yn nhrydedd golofn yr Atodlen honno.

Cyfrifo ffioedd

7.  Wrth gyfrifo ffioedd drwy luosi nifer yr oriau a weithiwyd â chyfradd yr awr, caiff cyfanswm yr oriau a weithiwyd ei fynegi ar ffurf ffracsiwn pan fo—

(a)llai nag un awr wedi ei weithio; neu

(b)cyfanswm yr amser a weithiwyd yn fwy nag un awr ond na ellir ei fynegi fel rhif cyfan mewn oriau.

Talu ffioedd

8.—(1Mae pob ffi yn daladwy i Weinidogion Cymru pan ofynnir amdani.

(2Caniateir talu unrhyw ffi drwy gyfrwng electronig.

(3Nid yw taliad ffi wedi ei gael hyd nes bod Gweinidogion Cymru wedi cael arian cliriedig ar gyfer y swm cyfan sy’n ddyledus.

(4Caiff unrhyw ffi nad yw wedi ei thalu ei hadennill gan Weinidogion Cymru fel dyled sifil.

Blaendaliadau

9.  Rhaid cyfrifo blaendaliadau unrhyw ffioedd sy’n daladwy ar gyfradd yr awr drwy gyfeirio at yr amcangyfrif o hyd y gwaith sy’n debygol o fod yn ofynnol a’r gyfradd yr awr sy’n daladwy.

Ad-daliadau

10.  Rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu unrhyw daliad a wnaed sy’n fwy na’r ffi sy’n daladwy, ond nid yw ffioedd a dalwyd yn ad-daladwy fel arall.

Dirymu Rheoliadau 2011

11.  Yn ddarostyngedig i reoliad 12, mae Rheoliadau 2011 wedi eu dirymu.

Darpariaethau trosiannol ac arbed

12.—(1Mae Rheoliadau 2011 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad ag unrhyw gais am drwydded forol, a chais i amrywio neu drosglwyddo trwydded forol sy’n dod i law Gweinidogion Cymru cyn 1 Ebrill 2017 nad oedd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu arno cyn y dyddiad hwnnw.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â phob cais am drwydded forol, a chais i amrywio neu drosglwyddo trwydded forol sy’n dod i law ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â’r gwaith monitro a ddisgrifir yn Atodlen 2 a gyflawnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017 ni waeth pa un a yw’r gwaith monitro hwnnw yn ymwneud â thrwydded forol a roddwyd cyn, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017.

(4At ddibenion y rheoliad hwn, nid yw cais wedi dod i law hyd nes bod ceisydd wedi darparu pa bynnag wybodaeth neu wedi dangos pa bynnag eitemau sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn yr awdurdod trwyddedu i alluogi’r awdurdod trwyddedu i benderfynu ar y cais.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

6 Mawrth 2017

Rheoliad 4

ATODLEN 1Bandiau a Ffioedd Ceisiadau

1.  Mae’r bandiau a’r ffioedd fel a ganlyn—

Band y cais a disgrifiad ohonoY ffi ar gyfer penderfynu ar gais
Band 1

Unrhyw gais sy’n ymwneud ag:

(a)

atgyweirio neu ailosod bolltau, fflapiau, falfiau, byrddau ar lanfa neu ysgraff;

(b)

symud ymaith dyfiant morol a gwano oddi ar unrhyw adeilad neu strwythur neu unrhyw ran ohono;

(c)

gosod ysgolion wrth unrhyw adeilad neu strwythur;

(d)

dyddodi pyst a’u symud ymaith wedi hynny at ddibenion marcio sianeli, ardaloedd dwr bâs, arllwysfeydd a grwynau;

(e)

dyddodi bwiau marcio a’u symud ymaith wedi hynny;

(f)

defnyddio cerbyd neu lestr i symud ymaith fân ddarnau arwahanol o falurion nad ydynt ynghlwm wrth wely’r môr (gan gynnwys polion, trawstiau, distiau a mân wrthrychau tebyg) sy’n gysylltiedig ag adeiladu, dymchwel, difrod neu adfeiliad adeilad neu strwythur;

(g)

cael gwared ar ysbwriel gan ddefnyddio cerbyd neu lestr; neu

(h)

unrhyw mân weithgaredd tebyg.

£600
Band 2
Unrhyw gais nad yw’n dod o fewn disgrifiadau Band 1, neu nad yw’n dod o fewn disgrifiadau Band 1 yn unig, ac sy’n ymwneud â gweithgaredd penodedig.£1,920
Band 3
Unrhyw gais nad yw’n dod o fewn disgrifiadau Band 1 neu Fand 2, neu nad yw’n dod o fewn disgrifiadau Band 1 neu Fand 2 yn unig.Cyfrifir y ffi ar gyfradd o £120 yr awr.

2.  Ym mharagraff 1, yn ddarostyngedig i’r eithriad ym mharagraff 3, ystyr “gweithgaredd penodedig” (“specified activity”) yw unrhyw weithgaredd sy’n dod o fewn un neu ddwy o’r eitemau a ganlyn—

(a)eitem 1 (dyddodion o fewn ardal trwyddedu morol y DU etc.) o adran 66(1) o’r Ddeddf;

(b)eitem 7 (adeiladu, addasu neu wella gweithfeydd etc.) o adran 66(1) o’r Ddeddf;

(c)eitem 8 (defnyddio cerbyd, llestr, awyren, strwythur morol neu gynhwysydd arnofiol i symud sylweddau ymaith etc.) o adran 66(1) o’r Ddeddf; neu

(d)eitem 9 (cyflawni unrhyw ffurf ar dreillio etc.) o adran 66(1) o’r Ddeddf ond dim ond i’r graddau y mae eitem 9 yn ymwneud â threillio o ran cynnal a chadw.

3.  Nid yw gweithgaredd penodedig yn cynnwys—

(a)unrhyw weithgaredd sydd i’w gyflawni fel rhan o brosiect o fath a bennir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/92/EU(4)ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd;

(b)unrhyw weithgaredd sydd i’w gyflawni fel rhan o brosiect o fath a bennir yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb honno, os yw’n debygol oherwydd ei faint, ei natur neu ei leoliad o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd;

(c)gweithgaredd y mae asesiad o’r effaith amgylcheddol yn ofynnol mewn cysylltiad ag ef yn rhinwedd rheoliad 5 (gofyniad am asesiad drwy gytundeb) o Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007(5);

(d)gweithgaredd sy’n cynnwys eitemau 7 a 9 a ddisgrifir ym mharagraff 2(b) a (d);

(e)unrhyw weithgaredd neu weithgareddau, neu fwy nag un gweithgaredd gyda’i gilydd, sydd â chost amcangyfrifedig o fwy na £1,000,000.

Rheoliad 5

ATODLEN 2Ffioedd sy’n Daladwy ar gyfer Monitro

Disgrifiad o’r gwaith monitroDisgrifiad o’r drwyddedY ffi
Bodloni amodau’r drwydded
Cymeradwyaeth gan yr awdurdod trwyddedu fel sy’n ofynnol gan unrhyw amod o fewn trwydded forol.Trwydded yr oedd y cais ar ei chyfer yn destun ffi Band 1 neu Fand 2 o dan Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn neu os caiff ei rhoi cyn dyddiad y Rheoliadau hyn, drwydded sy’n debyg i honno a fyddai’n destun ffi Band 1 neu Fand 2 o dan Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.Ffi benodedig o £480 ar gyfer pob amod sy’n gysylltiedig â thrwydded.
Trwydded yr oedd y cais ar ei chyfer yn destun ffi Band 3 o dan y Rheoliadau hyn neu os caiff ei rhoi cyn dyddiad y Rheoliadau hyn, drwydded sy’n debyg i honno a fyddai’n destun ffi Band 3 o dan y Rheoliadau hyn.Ffi a gyfrifir ar gyfradd o £120 yr awr.
Pob gwaith monitro arall
Unrhyw waith monitro arall fel y darperir ar ei gyfer yn adran 72A(2)(a), (b) a (3) o’r Ddeddf.Unrhyw drwydded.Ffi a gyfrifir ar gyfradd o £120 yr awr.

Rheoliad 6

ATODLEN 3Ffioedd sy’n Daladwy ar gyfer Amrywio a Throsglwyddo Trwyddedau

Disgrifiad o’r amgylchiadauDisgrifiad o’r drwyddedY ffi
Categori 1
Amrywio trwydded ar gais y ceisydd pan fo enw’r llestr, rhif cofrestru’r cerbyd, enw neu gyfeiriad yr asiant neu’r contractwr wedi ei ddiwygio neu pan fo diwygiadau gweinyddol tebyg eraill yn cael eu gwneud.Unrhyw drwydded.Ffi o £240 y cais.
Categori 2
Amrywio unrhyw ddarpariaeth arall o drwydded pan fo’r awdurdod trwyddedu yn ymgynghori â pherson neu gorff (gan gynnwys ymgynghori mewnol o fewn yr awdurdod trwyddedu) heblaw am ddeiliad y drwydded er mwyn penderfynu pa un ai i amrywio’r drwydded honno, neu sut i’w hamrywio.Unrhyw drwydded.Ffi a gyfrifir ar gyfradd o £120 yr awr.
Categori 3
Amrywio unrhyw ddarpariaeth arall o drwydded o dan unrhyw amgylchiadau eraill.Unrhyw drwydded.Ffi o £480.
Trosglwyddo
Trosglwyddo trwydded o’r trwyddedai i berson arall a’i hamrywio yn unol â hynny.Unrhyw drwydded.Ffi o £480.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ffioedd trwyddedu morol y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas â hwy o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.

O dan adran 67(1)(b) o’r Ddeddf honno, caiff yr awdurdod trwyddedu priodol ei gwneud yn ofynnol i ffi fynd gyda chais am drwydded forol. Mae rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn darparu bod y ffi ar gyfer penderfynu ar gais am drwydded naill ai yn ffi benodedig neu’n swm a gyfrifir drwy luosi nifer yr oriau a weithiwyd â £120.

Mae Band 1 yn gymwys i geisiadau sy’n ymwneud â mân weithgareddau. Mae Band 2 yn gymwys i unrhyw gais nad yw’n dod o fewn Band 1 nac o fewn y Band hwnnw yn unig, ac sy’n ymwneud â “gweithgaredd penodedig”. Mae “gweithgaredd penodedig” wedi ei ddiffinio ym mharagraffau 2 a 3 o Atodlen 1 ac mae’n cynnwys dyddodion o fewn ardal drwyddedu forol y DU, adeiladu, addasu neu wella gweithfeydd a defnyddio cerbyd neu lestr i symud ymaith sylweddau neu wrthrychau o wely’r môr, ond nid yw’n cynnwys gweithgareddau penodol. Mae Band 3 yn gymwys i unrhyw gais sy’n ymwneud ag unrhyw weithgaredd nad yw’n dod yn unig o fewn Band 1 na Band 2.

Mae rheoliad 5 ac Atodlen 2 yn darparu bod ffi benodedig ar gyfer bodloni amodau trwydded sy’n ymwneud â thrwyddedau morol sy’n dod o fewn disgrifiadau ceisiadau Band 1 neu Fand 2 a nodir yn Atodlen 1. Cyfrifir pob ffi arall ar gyfer gwaith monitro drwy luosi nifer yr oriau a weithiwyd â £120.

Mae rheoliad 6 ac Atodlen 3 yn darparu bod ffioedd penodedig ar gyfer amrywiadau penodol i drwydded forol ac ar gyfer trosglwyddo trwydded forol. Pan fo amrywiad i drwydded forol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod trwyddedu ymgynghori ag unrhyw un heblaw am y trwyddedai, cyfrifir y ffioedd ar gyfer amrywio trwydded forol drwy luosi nifer yr oriau a weithiwyd â £120.

Mae rheoliadau 7 i 10 yn cynnwys darpariaethau ychwanegol sy’n ymwneud â thalu’r cyfryw ffioedd, blaendaliadau ac ad-daliadau.

Mae rheoliad 11 yn dirymu Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd am Geisiadau) (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”), ac mae rheoliad 12 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed. Yn rhinwedd y darpariaethau hyn, mae Rheoliadau 2011 yn gymwys i unrhyw gais am drwydded forol neu i amrywio neu drosglwyddo trwydded forol a ddaeth i law cyn 1 Ebrill 2017 (pa un ai y penderfynwyd ar y cais gan Weinidogion Cymru cyn y dyddiad hwnnw ai peidio). Mae rheoliad 12(3) yn egluro y bydd ffioedd monitro yn gymwys i drwyddedau morol ni waeth pa un ai y rhoddwyd trwyddedau o’r fath cyn 1 Ebrill 2017.

Nid yw’r Rheoliadau hyn yn penderfynu’r holl ffioedd y caniateir eu codi mewn perthynas â thrwyddedu morol. Mae’r ffioedd ychwanegol y caniateir eu codi yn cynnwys ffioedd o dan adrannau 67(5), 67A a 72A(6) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 a ffioedd o dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r ffioedd hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2009 p. 23; diwygiwyd gan Ran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3), mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(2)

Yn rhinwedd adran 113(4)(b) o’r Ddeddf, Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu priodol mewn cysylltiad ag unrhyw beth a wneir wrth gyflawni gweithgareddau morol trwyddedadwy o ran Cymru a rhanbarth glannau Cymru ac eithrio gweithgareddau y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer yn rhinwedd adran 113(4)(a) a (5) o’r Ddeddf. Gweler adran 322(1) o’r Ddeddf i gael diffiniad o “Welsh inshore region”.

(4)

OJ L 26, 28.1.2012, t.1.