2018 Rhif 1216 (Cy. 249)
Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”)1 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliadau 2, 5, 15, 16, 36 and 37;
adran 58B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20062, i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoliadau 2 a 5;
adrannau 103(1) i (3), (7), 104(4) a (6) o Ddeddf Dŵr 20033, i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliad 15;
adrannau 33A a 219(2)(f) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 19914, i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliad 16;
adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 19815, i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliadau 36 a 37.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi6 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf 1972 mewn perthynas ag—
ansawdd dŵr a fwriedir at ddibenion domestig neu i’w ddefnyddio mewn menter cynhyrchu bwyd7;
mesurau sy’n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli pecynnu a gwastraff pecynnu8;
atal, lleihau a rheoli gwastraff9;
atal halogi tir ac adfer tir halogedig10;
rheoli perygl llifogydd11;
mesurau sy’n ymwneud ag adnoddau dŵr12;
diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol13;
y polisi amaethyddol cyffredin14;
y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd15;
mesurau sy’n ymwneud â rheoli a rheoleiddio achosion o ryddhau’n fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, gosod yr organeddau hynny ar y farchnad a’u symud ar draws ffiniau16;
polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd17;
y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd18.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn rheoliadau 11, 17(2), 17(3), 18(2)(a), 18(2)(b), 18(3), 23, 37(2)(a) a 37(4) fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.