2018 Rhif 285 (Cy. 54)

Trethi, Cymru

Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 188 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.

Diwygio Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 20152

Yn Atodlen 1 i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 20152 (awdurdodau llywodraeth ganolog), ar ôl “Welsh NHS Bodies” mewnosoder—

The Welsh Revenue Authority

Diwygio Deddf Cydraddoldeb 20103

Yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 20103 (awdurdodau cyhoeddus: awdurdodau Cymreig perthnasol), o dan y pennawd “other public authorities”, cyn “The Auditor General for Wales or Archwilydd Cyffredinol Cymru.” mewnosoder—

The Welsh Revenue Authority or Awdurdod Cyllid Cymru.

Diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 20154

Yn yr Atodlen i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 20154 (swyddi sy’n anghymhwyso’r deiliad rhag bod yn aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru), mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y lle priodol yn y tabl—

Awdurdod Cyllid Cymru

Cadeirydd ac aelodau a benodwyd o dan adran 3(1)(b) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

Diwygio Deddf Enillion Troseddau 20025

Mae Deddf Enillion Troseddau 20025 wedi ei diwygio fel a ganlyn—

a

yn adran 47A(2)6 (adrannau 47B i 47S: ystyr “appropriate officer”), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

b

yn adran 47G(3)(c) (cymeradwyaeth briodol), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

c

yn adran 68(3)(c) (ceisiadau ac apelau), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

d

yn adran 290(4)(c)7 (cymeradwyaeth ymlaen llaw), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

e

yn adran 303A(1)8 (ymchwilwyr ariannol), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

f

yn adran 352(7)9 (gwarantau chwilio ac ymafael), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

g

yn adran 353(11)10 (gofynion pan na fo gorchymyn cyflwyno ar gael), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

h

yn adran 378(2)(d) (uwch-swyddogion priodol mewn ymchwiliad atafaelu), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

i

yn adran 378(3AA)(b)11 (uwch-swyddogion priodol mewn ymchwiliad arian parod dan gadwad), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

j

yn adran 378(3B)12 (swyddogion priodol mewn ymchwiliad arian parod dan gadwad), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”; a

k

yn adran 378(6)(c) (uwch-swyddogion priodol mewn ymchwiliad gwyngalchu arian), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”.

Mark DrakefordYsgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 188 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 er mwyn darparu bod Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) i’w drin fel “central government authority” at ddibenion y Rheoliadau hynny.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 er mwyn darparu bod ACC i’w drin fel “relevant Welsh authority” at ddibenion y Ddeddf honno.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015 er mwyn darparu bod cadeirydd ac aelodau anweithredol ACC wedi eu hanghymhwyso rhag dod yn aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae rheoliad 5 yn diwygio Deddf Enillion Troseddau 2002 er mwyn gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad ag adran 186 (enillion troseddau) o’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.