xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 415 (Cy. 73) (C. 35)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2018

Gwnaed

22 Mawrth 218

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 124(2) a (3) o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2018.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2018

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 i rym ar 1 Ebrill 2018—

(a)adran 88; a

(b)adran 89(2)(h)(ii) a (4).

Kirsty Williams

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru

22 Mawrth 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 124(2) a (3) o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (“y Ddeddf”). Dyma’r Rheoliadau cyntaf sy’n dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o’r Ddeddf o ran Cymru.

Mae rheoliad 2 yn darparu y daw adrannau 88 a 89(2)(h)(ii) a (4) o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2018.