Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 692 (Cy. 134)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018

Gwnaed

4 Ionawrr 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Ionawr 2018

Cymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Ionawr 2018

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir i’r Trysorlys gan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy i’r graddau y mae’r pŵer hwnnw yn arferadwy o ran Cymru(2).

(1)

1988 p. 41.

(2)

Yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd y pwerau o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), mae’r pwerau bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru.