xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 708 (Cy. 139)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hepgoriadau o’r Gofrestr a Gyhoeddwyd) (Cymru) 2018

Gwnaed

11 Mehefin 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Mehefin 2018

Yn dod i rym

4 Gorffennaf 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 38(5)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hepgoriadau o’r Gofrestr a Gyhoeddwyd) (Cymru) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Gorffennaf 2018.

(3Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yr ystyr a roddir gan adran 3(1)(c) o’r Ddeddf;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

mae i “gwasanaeth cartref gofal” (“care home service”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf;

mae i “gwasanaeth llety diogel” (“secure accommodation service”) yr ystyr a roddir gan baragraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 18 oed.

Hepgor gwybodaeth o’r gofrestr a gyhoeddwyd o ddarparwyr gwasanaethau

3.  At ddibenion adran 38(5)(a) o’r Ddeddf caiff Gweinidogion Cymru hepgor o’r gofrestr a gyhoeddwyd o ddarparwyr gwasanaethau yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan adran 38(2)(b) o’r Ddeddf mewn cysylltiad ag unrhyw gofnod yn y gofrestr sy’n ymwneud â man—

(a)y darperir gwasanaeth cartref gofal yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant ynddo;

(b)y darperir gwasanaeth llety diogel ynddo.

Huw Irranca-Davies

Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

11 Mehefin 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 38 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Mae adran 38(1) o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o ddarparwyr gwasanaethau.

Mae adran 38(2) o’r Ddeddf yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn cofnod ar y gofrestr mewn cysylltiad â darparwr gwasanaeth.

Mae adran 38(5)(a) o’r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i hepgor gwybodaeth ragnodedig o’r gofrestr a gyhoeddwyd o dan amgylchiadau rhagnodedig.

Mae rheoliad 3 yn nodi’r wybodaeth y caiff Gweinidogion Cymru ei hepgor o’r gofrestr a gyhoeddwyd a’r amgylchiadau pan gânt wneud hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.