2018 Rhif 708 (Cy. 139)
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hepgoriadau o’r Gofrestr a Gyhoeddwyd) (Cymru) 2018
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 38(5)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20161.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hepgoriadau o’r Gofrestr a Gyhoeddwyd) (Cymru) 2018.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Gorffennaf 2018.
3
Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yr ystyr a roddir gan adran 3(1)(c) o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
mae i “gwasanaeth cartref gofal” (“care home service”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf;
mae i “gwasanaeth llety diogel” (“secure accommodation service”) yr ystyr a roddir gan baragraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 18 oed.
Hepgor gwybodaeth o’r gofrestr a gyhoeddwyd o ddarparwyr gwasanaethau3
At ddibenion adran 38(5)(a) o’r Ddeddf caiff Gweinidogion Cymru hepgor o’r gofrestr a gyhoeddwyd o ddarparwyr gwasanaethau yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan adran 38(2)(b) o’r Ddeddf mewn cysylltiad ag unrhyw gofnod yn y gofrestr sy’n ymwneud â man—
a
y darperir gwasanaeth cartref gofal yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant ynddo;
b
y darperir gwasanaeth llety diogel ynddo.
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)