xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gwastraff, Cymru
Gwnaed
11 Mehefin 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Mehefin 2018
Yn dod i rym
5 Gorffennaf 2018
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas ag—
(a)mesurau ynghylch atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli pecynnu a gwastraff pecynnu(3);
(b)atal, lleihau a rheoli gwastraff(4).
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Gorffennaf 2018.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn adran 62A(2)(b) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(5) (rhestrau o wastraff sy’n arddangos nodweddion peryglus), ar ôl “Directive 2008/98/EC” mewnosoder “, as last amended by Council Regulation (EU) 2017/997”.
3. Yn lle rheoliad 2(1)(a) o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(6) (y Gyfarwyddeb Wastraff ac ystyr Gwastraff), rhodder—
“(a)“ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff a diddymu Cyfarwyddebau penodol, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997;”.
4. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007(7) (dehongli a hysbysiadau), yn y diffiniad o “the Waste Directive”, ar y diwedd, cyn yr hanner colon, mewnosoder “, as last amended by Council Regulation (EU) 2017/997”.
5. Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011(8) (dehongli), yn y diffiniad o “the Waste Framework Directive”, ar y diwedd, cyn yr hanner colon, mewnosoder, “as last amended by Council Regulation (EU) 2017/997”.
6. Yn rheoliad 3 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016(9) (dehongli: Cyfarwyddebau), yn y diffiniad o “the Waste Framework Directive”, ar y diwedd, cyn yr hanner colon, mewnosoder “, as last amended by Council Regulation (EU) 2017/997”.
7. Mae’r rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a)rheoliad 3(2) o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2015(10);
(b)rheoliad 3(2) o Reoliadau Gwastraff (Ystyr Adfer) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016(11).
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
11 Mehefin 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth sy’n cyfeirio at Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 19 Tachwedd 2008 ar wastraff ac yn diddymu Cyfarwyddebau penodol (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t. 3.)
Mae angen y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn er mwyn gweithredu Rheoliad y Cyngor (EU) 2017/997 dyddiedig 8 Mehefin 2017 sy’n diwygio Atodiad III i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y nodwedd beryglus HP 14 ‘Ecowenwynig’ (OJ Rhif L 150, 14.6.2017, t. 1).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Yn rhinwedd adran 59(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) mewn perthynas ag unrhyw fater, neu at unrhyw ddiben, os ydynt wedi eu dynodi mewn perthynas â’r mater hwnnw neu at y diben hwnnw.
1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.
1990 p. 43, mewnosodwyd adran 62A gan O.S. 2005/894 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2015/1360; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2005/1806 (Cy. 138), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/971 (Cy. 141), 2015/1417 (Cy. 141) a 2016/691(Cy. 189).
O.S. 2007/871, a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/738; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2011/988, a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/691 (Cy. 189); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2016/1154; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.