xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 768 (Cy. 155)

Trethi, Cymru

Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaeth Atodol) 2018

Gwnaed

24 Mehefin 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Mehefin 2018

Coming into force

20 Gorffennaf 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 188 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016(1).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaeth Atodol) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Gorffennaf 2018.

Diwygio Deddf Enillion Troseddau 2002

2.  Mae Deddf Enillion Troseddau 2002(2) wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)yn adran 303C(9)(d)(3) (swyddog perthnasol at ddibenion Pennod 3A), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(b)yn adran 303E(4)(f) (uwch-swyddog at ddibenion cymeradwyaeth ymlaen llaw i gynnal chwiliadau), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(c)yn adran 303L(5)(d) (personau penodedig - cadwad pellach o eiddo yr ymafaeliwyd ynddo), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(d)yn adran 303O(2)(d) (personau penodedig - fforffedu eiddo), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(e)yn adran 303Z1(6)(4) (dehongli at ddibenion Pennod 3B), yn y diffiniad o “enforcement officer”, ym mharagraff (d), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(f)yn adran 303Z2(4)(e) (uwch-swyddog at ddibenion Pennod 3B), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(g)yn adran 303Z14(3)(d) (personau penodedig at ddibenion ceisiadau fforffedu cyfrif), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(h)yn adran 336D(7)(h)(5) (uwch-swyddog at ddibenion adran 336A (pŵer y llys i estyn y cyfnod moratoriwm)), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(i)yn adran 378(3C)(c)(6) (swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau eiddo dan gadwad o dan Ran 8), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(j)yn adran 378(3D)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau eiddo dan gadwad o dan Ran 8), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(k)yn adran 378(3E)(c) (swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau cyllid clo o dan Ran 8), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”; ac

(l)yn adran 378(3F)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau cyllid clo o dan Ran 8), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”.

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

24 Mehefin 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 188 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) (“y Ddeddf”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio Deddf Enillion Troseddau 2002 (p. 29) er mwyn gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad ag adran 186 (enillion troseddau) o’r Ddeddf ac ymchwilwyr ariannol achrededig Awdurdod Cyllid Cymru yn arfer y pwerau sydd wedi eu cynnwys yn y Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(3)

Mewnosodwyd adrannau 303C, 303E, 303L a 303O gan adran 15 o Ddeddf Cyllid Troseddol 2017 (p. 22) (“Deddf 2017”).

(4)

Mewnosodwyd adrannau 303Z1, 303Z2 a 303Z14 gan adran 16 o Ddeddf 2017.

(5)

Mewnosodwyd adran 336D gan adran 10(4) o Ddeddf 2017.

(6)

Mewnosodwyd adran 378(3C) i (3F) gan baragraff 59 o Atodlen 5 i Ddeddf 2017.