xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gwnaed
25 Tachwedd 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Tachwedd 2019
Yn dod i rym
27 Ionawr 2020
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 27 Ionawr 2020.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989(3) (prisio ar sail y contractiwr) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1E) hepgorer y geiriau “or after”.
(3) Ar ôl paragraff (1F) mewnosoder—
“(1G) Paragraph (2G) of this regulation applies in relation to a hereditament shown in a non-domestic rating list in Wales compiled on or after 1 April 2021, the rateable value of which is being ascertained using the contractor’s basis of valuation.”
(4) Ar ôl paragraff (2F) mewnosoder—
“(2G) In applying the provisions of the Act referred to in paragraph (2) of this regulation in circumstances where paragraph (1G) of this regulation applies, the appropriate rate is to be assumed to be—
(a)in the case of a defence hereditament, an educational hereditament, a health care hereditament or a hereditament which is wholly a public convenience 1.9 per cent;
(b)in any other case 3.5 per cent.”
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd,
un o Weinidogion Cymru
25 Tachwedd 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae paragraff 2(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”) yn darparu bod gwerth ardrethol hereditament annomestig yn cael ei ystyried yn swm sy’n hafal i’r rhent yr amcangyfrifir y gellid disgwyl yn rhesymol gosod yr hereditament amdano o flwyddyn i flwyddyn (yn ddarostyngedig i ragdybiaethau penodedig). Yn yr achosion hynny pan nad oes gwybodaeth ar gael am y farchnad rentu gyffredinol ac na ellir defnyddio elw a cholled fel awgrym o werth rhent, penderfynir, yn hytrach, ar werth ardrethol hereditament annomestig drwy ddatgyfalafu cyfanswm gwerth cyfalaf amcangyfrifedig yr hereditament (yr enw ar hyn yw “the contractor’s basis of valuation”). Rhagnodir y cyfraddau datgyfalafu drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 2(8) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988. Rhagnodir y cyfraddau hyn yn rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989 (fel y’u diwygiwyd) (“Rheoliadau 1989”).
Drwy wneud y Rheoliadau hyn a fydd yn cael effaith o 27 Ionawr 2020, mae Gweinidogion Cymru yn diwygio’r cyfraddau datgyfalafu a ragnodir gan reoliad 2 o Reoliadau 1989 ar gyfer rhestrau ardrethu annomestig a lunnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2021.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Gangen Polisi Trethi Llywodraeth Leol, yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1988 p. 41. Diwygiwyd paragraff 2(8) o Atodlen 6 gan baragraff 38(8) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42).
Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.