xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1499 (Cy. 275)

Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru

Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2019

Gwnaed

11 Rhagfyr 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Rhagfyr 2019

Yn dod i rym

13 Ionawr 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 34 o Ddeddf Adeiladu 1984(1), a pharagraffau 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu a’r cyrff eraill hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli’r buddiannau o dan sylw yn unol ag adran 14(7) o Ddeddf Adeiladu 1984(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2019.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (3).

(3Nid yw rheoliad 2(7) o’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.

(4Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Ionawr 2020.

(5Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2010” yw Rheoliadau Adeiladu 2010(4).

Diwygiadau i Reoliadau 2010

2.—(1Mae Rheoliadau 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli) ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(6) In these Regulations—

(a)any reference to an “external wall” of a building includes a reference to—

(i)anything located within any space forming part of the wall;

(ii)any decoration or other finish applied to any external (but not internal) surface forming part of the wall;

(iii)any windows and doors in the wall; and

(iv)any part of a roof pitched at an angle of more than 70 degrees to the horizontal if that part of the roof adjoins a space within the building to which persons have access, but not access only for the purpose of carrying out repairs or maintenance; and

(b)“specified attachment” means—

(i)a balcony attached to an external wall; or

(ii)a solar panel attached to an external wall.

(3Yn rheoliad 4(2) (gofynion sy’n ymwneud â gwaith adeiladu) ar ôl “Schedule 1” mewnosoder “(in addition to the requirements of regulation 7)”.

(4Yn rheoliad 5 (ystyr newid defnydd sylweddol)—

(a)ar ôl paragraff (i) hepgorer “or”; a

(b)ar ôl paragraff (j) mewnosoder—

; or

(k)the building is a building described in regulation 7(4)(a), where previously it was not.

(5Yn rheoliad 6 (gofynion sy’n ymwneud â newid defnydd sylweddol) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Subject to paragraph (4), where there is a material change of use described in regulation 5(k), such work, if any, must be carried out as is necessary to ensure that any external wall, or specified attachment, of the building only contains materials of a minimum European Classification A2-s1, d0 or A1, classified in accordance with BS EN 13501-1:2018 entitled “Fire classification of construction products and building elements. Classification using test data from reaction to fire tests” (ISBN 978 0 580 95726 0) published by the British Standards Institution on 14th January 2019.

(4) Paragraph (3) does not apply to the items listed in regulation 7(3).

(6Mae rheoliad 7 (deunyddiau a chrefftwaith) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)mae rheoliad 7 wedi ei ailrifo fel paragraff (1) o’r rheoliad hwnnw;

(b)ar ôl rheoliad 7(1) (fel y’i hailrifwyd) mewnosoder—

(2) Subject to paragraph (3), building work must be carried out so that materials which become part of an external wall, or specified attachment, of a relevant building are of a minimum European Classification A2-s1, d0 or A1, classified in accordance with BS EN 13501-1:2018 entitled “Fire classification of construction products and building elements. Classification using test data from reaction to fire tests” (ISBN 978 0 580 95726 0) published by the British Standards Institution on 14th January 2019.

(3) Paragraph (2) does not apply to—

(a)cavity trays when used between two leaves of masonry;

(b)any part of a roof (other than any part of a roof which falls within paragraph (iv) of regulation 2(6)) if that part is connected to an external wall;

(c)door frames and doors;

(d)electrical installations;

(e)insulation and water proofing materials used below ground level;

(f)intumescent and fire stopping materials where the inclusion of the materials is necessary to meet the requirements of Part B of Schedule 1;

(g)membranes;

(h)seals, gaskets, fixings, sealants and backer rods;

(i)thermal break materials where the inclusion of the materials is necessary to meet the thermal bridging requirements of Part L of Schedule 1; or

(j)window frames and glass.

(4) In this regulation—

(a)a “relevant building” means a building with a storey (not including roof-top plant areas or any storey consisting exclusively of plant rooms) at least 18 metres above ground level and which—

(i)contains one or more dwellings;

(ii)contains an institution; or

(iii)contains a room for residential purposes (excluding any room in a hostel, hotel or boarding house);

(b)“above ground level” in relation to a storey means above ground level when measured from the lowest ground level adjoining the outside of a building to the top of the floor surface of the storey.

(7Yn rheoliad 37A (darparu systemau llethu tân awtomatig), ym mharagraff (1)(a)—

(a)ar ôl “care homes” mewnosoder “, which”;

(b)ar ôl “2016”, yn lle “are” rhodder “is”.

Darpariaeth drosiannol

3.—(1Nid yw’r diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo hysbysiad adeiladu neu hysbysiad cychwynnol wedi ei roi i awdurdod lleol, neu pan fo cynlluniau llawn wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol, cyn y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym a phan fo’r gwaith adeiladu y mae’n ymwneud ag ef naill ai—

(a)wedi dechrau cyn y diwrnod hwnnw; neu

(b)yn dechrau o fewn 8 wythnos gan ddechrau â’r diwrnod hwnnw.

(2Yn y rheoliad hwn, mae i “hysbysiad adeiladu”, “hysbysiad cychwynnol” a “cynlluniau llawn” yr ystyron a roddir i “building notice”, “initial notice” a “full plans” yn Rheoliadau 2010.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Lleol, un o Weinidogion Cymru

11 Rhagfyr 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 (“Rheoliadau 2010”).

Mae rheoliad 2(2) yn mewnosod diffiniadau o “external wall” a “specified attachment” yn rheoliad 2 (dehongli).

Mae rheoliad 2(3) yn diwygio rheoliad 4(2) (gofynion sy’n ymwneud â gwaith adeiladu) i egluro’r modd y mae’n gymwys i ofynion rheoliad 7 (fel y’i diwygiwyd).

Mae rheoliad 2(4) a (5) yn diwygio rheoliad 5 (ystyr newid defnydd sylweddol) a 6 (gofynion sy’n ymwneud â newid defnydd sylweddol) yn y drefn honno i ddarparu ar gyfer cyflwyno gofyniad newydd ar gyfer y deunyddiau sydd wedi eu cynnwys mewn wal allanol neu atodyn penodedig i adeilad sydd, ar ôl newid defnydd, yn cael ei ddefnyddio fel adeilad a ddisgrifir yn y rheoliad 7(4) newydd. Rhaid i’r deunyddiau hynny sicrhau Dosbarthiad Ewropeaidd A2-s1, d0 neu A1.

Mae rheoliad 2(6) yn diwygio rheoliad 7 i ddarparu, yn ddarostyngedig i’r eitemau esempt yn y rheoliad 7(3) newydd, mai dim ond deunyddiau sy’n sicrhau Dosbarthiad Ewropeaidd A2-s1, d0 neu A1 a gaiff ddod yn rhan o wal allanol neu atodyn penodedig i adeilad perthnasol. Mae’r rheoliad 7(4) newydd yn darparu’r diffiniad o “relevant building”.

Mae rheoliad 2(7) yn gwneud diwygiadau i reoliad 37A i gywiro mân wallau.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaethau trosiannol fel na fydd y diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn gymwys pan fo hysbysiad adeiladu neu hysbysiad cychwynnol wedi ei roi i awdurdod lleol, neu pan fo cynlluniau llawn wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol, cyn 13 Ionawr 2020 a phan fo’r gwaith adeiladu eisoes wedi dechrau neu’n dechrau o fewn 8 wythnos i’r dyddiad hwnnw.

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am y Rheoliadau ar ffurf ddrafft (Hysbysiad Rhif 2019/0384/UK ar 30 Gorffennaf 2019) yn unol â Chyfarwyddeb (EU) 2015/1535 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 241, 17.9.2015, t. 1), sy’n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau technegol a rheoleiddio.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae ar gael ar y wefan ar www.llyw.cymru.

Bydd copïau o’r Safon Brydeinig y mae’r Rheoliadau hyn yn cyfeirio ati ar gael i edrych arnynt yn rhad ac am ddim drwy gysylltu â’r Tîm Polisi Rheoliadau Adeiladu yn Llywodraeth Cymru yn y cyfeiriad uchod.

(1)

1984 p. 55. Diwygiwyd adran 1 gan adran 1 o Ddeddf Adeiladau Cynaliadwy a Diogel 2004 (p. 22) (“Deddf 2004”). Diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 1 gan adran 3 o Ddeddf 2004 a chan adran 11 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2006 (p. 19); a diwygiwyd paragraff 8 o Atodlen 1 gan adran 3 o Ddeddf 2004 a chan adran 40 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29).

(2)

Cafodd y swyddogaethau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 34 o Ddeddf Adeiladu 1984, a pharagraffau 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/3019) (“Gorchymyn 2009”) ac mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru gan adran 54 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4).

(3)

Ychwanegwyd adran 14(7) gan Orchymyn 2009.

(4)

O.S. 2010/2214; mewnosodwyd rheoliad 37A gan O.S. 2013/2730 (Cy. 264) a chan O.S. 2018/558 (Cy. 97) mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.