2019 No. 414 (Cy. 96)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gwastraff, Cymru

Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Coming into force in accordance with regulation 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru’n gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

a

mewn perthynas â Rhan 1, y pwerau a grybwyllir ym mharagraffau (b) ac (c);

b

mewn perthynas â Rhan 2, adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721;

c

mewn perthynas â gweddill y Rheoliadau, paragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20182.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi 3 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran—

d

mesurau sy’n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli pecynnu a gwastraff pecynnu4;

e

atal, lleihau a rheoli gwastraff5.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (yn ymwneud â’r weithdrefn graffu briodol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.