xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2019 No. 414 (Cy. 96)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Gwastraff, Cymru

Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

18 Chwefror 2019

Gwnaed

28 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Mawrth 2019

Coming into force in accordance with regulation 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru’n gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

(a)mewn perthynas â Rhan 1, y pwerau a grybwyllir ym mharagraffau (b) ac (c);

(b)mewn perthynas â Rhan 2, adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1);

(c)mewn perthynas â gweddill y Rheoliadau, paragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(2).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi (3) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran—

(d)mesurau sy’n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli pecynnu a gwastraff pecynnu(4);

(e)atal, lleihau a rheoli gwastraff(5).

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (yn ymwneud â’r weithdrefn graffu briodol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

RHAN 1LL+CRhagarweiniol

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2Deuant i rym fel a ganlyn—

(a)o ran y Rhan hon a Rhan 2, 21 diwrnod ar ôl y diwrnod y maent wedi eu gosodwyd;

(b)o ran y gweddill, ar y diwrnod ymadael.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 22.3.2019, gweler rhl. 1(2)(a)

RHAN 2LL+CDiwygio cyfeiriadau sydd wedi dyddio

Mesur Gwastraff (Cymru) 2010LL+C

2.—(1Mae Mesur Gwastraff (Cymru) 2010(6) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 9(3), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/97/EU(7)”.

(3Yn adran 17(2), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997(8)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 22.3.2019, gweler rhl. 1(2)(a)

Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004LL+C

3.—(1Mae Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 200(9)wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “cyfleuster gwastraff” (“waste facility”) yn lle “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/1127” rhodder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997”.

(3Yn rheoliad 7(10), ar y diwedd mewnosoder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor 2011/97/EU”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 22.3.2019, gweler rhl. 1(2)(a)

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005LL+C

4.—(1Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 47(5B), ar ôl “gwastraff,” mewnosoder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/97/EU”.

(3Yn rheoliad 48(6B), ar ôl “gwastraff,” mewnosoder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/97/EU”.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 22.3.2019, gweler rhl. 1(2)(a)

Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011LL+C

5.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011(11) yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” (“the Waste Framework Directive”) yn lle “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor (EU) 2015/1127” rhodder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997”.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 22.3.2019, gweler rhl. 1(2)(a)

RHAN 3LL+CDiwygio deddfwriaeth sylfaenol

Mesur Gwastraff (Cymru) 2010LL+C

6.—(1Mae Mesur Gwastraff (Cymru) 2010(12) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

[F1(2) Yn adran 9(3) ar y diwedd mewnosoder “, a’i darllen fel pe bai—

(a)yn Erthygl 2—

(i)ym mhwynt (a) y cyfeiriad at y diffiniad o ‘waste’ wedi ei hepgor;

(ii)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl pwynt (a)—

(aa)‘Waste’ has the meaning given in Article 3(1) of Directive 2008/98/EC (“the Waste Framework Directive”), as read with Articles 5 and 6 of that Directive.;

(b)yn Erthygl 3(2), “Without prejudice to existing Community legislation,” wedi ei hepgor.]

F2(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4Yn adran 17—

(a)yn is-adran (2) (F3..., ar y diwedd mewnosoder “, a chan ei ddarllen yn unol ag is-adrannau (3) i (8)”;

(b)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(3) Mae cyfeiriad at un neu fwy o Aelod-wladwriaethau mewn darpariaeth sy’n gosod rhwymedigaeth ar Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau neu sy’n rhoi disgresiwn i Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau i’w ddarllen fel cyfeiriad at Weinidogion Cymru, Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu awdurdod lleol a oedd, yn union cyn [F4diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu (yn yr ystyr a roddir i’r ymadrodd “IP completion day” yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020)], yn gyfrifol am gydymffurfiaeth y Deyrnas Unedig â’r rhwymedigaeth honno neu’n cael arfer y disgresiwn hwnnw o ran Cymru.

(4) Mae Erthygl 2 i’w darllen fe pe bai—

(a)ym mharagraff 2—

(i)yn y geiriau o flaen pwynt (a), “retained EU law” wedi ei roi yn lle “other Community legislation”;

(ii)ym mhwyntiau (b) a (c), “Regulation (EC) No 1069/2009” wedi ei roi yn lle “Regulation (EC) No 1774/2002”;

(iii)ym mhwynt (d), “the Mining Waste Directive (gweler adran 17A)” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “Directive 2006/21/EC” hyd at y diwedd;

(b)ym mharagraff 3, y geiriau o “Without prejudice” hyd at “Community legislation,” wedi eu hepgor;

(c)paragraff 4 wedi ei hepgor.

[F5(5)  Mae Erthygl 5 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 1, “A” wedi ei roi yn lle “Member States shall take appropriate measures to ensure that a”;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff 1—

1A.  Any decision as to whether a substance or object is a by-product, must be made—

(a)in accordance with any regulations setting out detailed criteria on the application of the conditions in paragraph 1 to specific substances or objects; and

(b)having regard to any guidance published by the Welsh Ministers or the Natural Resources Body for Wales for the purposes of this Article.;

(c)paragraffau 2 a 3 wedi eu hepgor.

(6) Mae Erthygl 6 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 1 “Waste” wedi ei roi yn lle “Member States shall take appropriate measures to ensure that waste”;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff 1—

1A.  Any decision as to whether a substance or object has ceased to be waste must be made—

(a)in accordance with any regulations or retained direct EU legislation (within the meaning given to that expression in the European Union (Withdrawal) Act 2018) setting out detailed criteria on the application of the conditions in paragraph 1 to specific types of waste; and

(b)having regard to any guidance published by the Welsh Ministers or the Natural Resources Body for Wales for the purposes of this Article.;

(c)ym mharagraff 2—

(i)yr is-baragraff cyntaf wedi ei hepgor;

(ii)yn yr ail is-baragraff, “Any detailed criteria set out in guidance as referred to in paragraph 1A” wedi ei roi yn lle “Those detailed criteria”;

(iii)y trydydd a’r pedwerydd is-baragraffau wedi eu hepgor;

(d)paragraff 3 wedi ei hepgor;

(e)ym mharagraff 4—

(i)yn yr is-baragraff cyntaf—

(aa)yn y frawddeg gyntaf, “Where criteria have not been set out as referred to in paragraph 1A(a) the Natural Resources Body for Wales” wedi ei roi yn lle’r geiriau o’r dechrau hyd at “Member State”;

(bb)yr ail frawddeg wedi ei hepgor;

(ii)yn yr ail is-baragraff—

(aa)“The Natural Resources Body for Wales” wedi ei roi yn lle “Member States”;

(bb)“by competent authorities” wedi ei hepgor.

(7) Mae Erthygl 7 i’w darllen fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei fewnosod o flaen paragraff 1—

A1.  In this Article, the “list of waste” means the list contained in the Annex to Commission Decision 2000/532/EC, as that list has effect in Wales.;

(b)ym mharagraff 1—

(i)y frawddeg gyntaf a’r ail frawddeg wedi eu hepgor;

(ii)“The list of waste shall, except as provided in Commission Decision 2000/532/EC, be binding as regards determination of the waste which is to be considered as hazardous waste or as non-hazardous waste.” wedi ei roi yn lle’r drydedd frawddeg;

(c)paragraffau 2, 3, 6 a 7 wedi eu hepgor.]

(8) Mae Atodiad 3 i’w ddarllen fel pe bai, yng nghofnod HP 9, yn yr ail frawddeg, “in the Member States” wedi ei hepgor.

(5Ar ôl adran 17 mewnosoder—

Ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio”

17A.(1) Wrth ddarllen Erthygl 2 o’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yn unol ag adran 17(4), ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio” (“the Mining Waste Directive(fel y’i mewnosodwyd gan baragraff (a)(iii) o adran 17(4)) yw Cyfarwyddeb 2006/21/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli gwastraff o ddiwydiannau echdynnu(13), gan ei darllen yn unol ag is-adrannau (2) i (5).

(2) Mae Erthygl 2 i’w darllen fe pe bai—

(a)ym mharagraff 2(c), y cyfeiriad at Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC(14) yn gyfeiriad at yr Erthygl honno o’i darllen yn unol ag is-adran (4);

(b)paragraffau 3 a 4 wedi eu hepgor.

(3) Mae Erthygl 3(1) i’w darllen fel pe bai “Article 3(1) of the Waste Framework Directive, as read with Articles 5 and 6 of that Directive” wedi ei roi yn lle “Article 1(a) of Directive 75/442/EEC”.

(4) At ddibenion is-adran (2)(a), mae Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC i’w darllen fel pe bai—

(a)y cyfeiriad cyntaf at “Member States” yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru neu Gorff Adnoddau Naturiol Cymru;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar y diwedd—

and “environmental objectives”, in relation to a river basin district within the meaning of the Water Environment (Water Framework Directive) (England and Wales) Regulations 2017(15) has the same meaning as in those Regulations.

(5) Wrth ddarllen y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio yn unol ag is-adran (3), mae i’r cyfeiriad yn y Gyfarwyddeb honno at y “Waste Framework Directive” (fel y’i mewnosodwyd gan is-adran (3)) yr ystyr a roddir gan adran 17(2) o’r mesur hwn.

Diwygiadau Testunol

F1Rhl. 6(2) wedi ei amnewid (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(2)(a)

F2Rhl. 6(3) wedi ei hepgor (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) yn rhinwedd Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(2)(b)

F3Geiriau yn rhl. 6(4)(a) wedi eu hepgor (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) yn rhinwedd Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(2)(c)(i)

F4Geiriau yn rhl. 6(4)(b) wedi eu hamnewid (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(2)(c)(ii)(aa)

F5Geiriau yn rhl. 6(4)(b) wedi eu hamnewid (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(2)(c)(ii)(bb)

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 31.12.2020 ar diwrnod cwblhau CG (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)(b)

I7Rhl. 6 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau’r CG (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 4LL+CDiwygio is-ddeddfwriaeth

Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004LL+C

7.—(1Mae Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004(16)wedi eu diwygio fel a ganlyn.

[F6(2) Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y diffiniad o “cyfleuster gwastraff (“waste facility”)”, hepgorer “(fel y’i hamnewidir gan reoliad 4(2))”;

(b)ar ôl y diffiniad o “gwastraff trefol a gasglwyd (“collected Municipal waste”)” mewnosoder—

ystyr “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” (“the Waste Framework Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb (EU) 2018/851 gan ei darllen yn unol â pharagraffau (3) i (9).]

F7(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4[F8Ar ôl rheoliad 2(2)] mewnosoder—

(3) Mae cyfeiriad at un neu fwy o Aelod-wladwriaethau mewn darpariaeth sy’n gosod rhwymedigaeth ar Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau neu sy’n rhoi disgresiwn i Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau i’w ddarllen fel cyfeiriad at Weinidogion Cymru, Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu’r awdurdod lleol a oedd, yn union cyn [F9diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu (yn yr ystyr a roddir i’r ymadrodd “IP completion day” yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020)], yn gyfrifol am gydymffurfiaeth y Deyrnas Unedig â’r rhwymedigaeth honno neu’n cael arfer y disgresiwn hwnnw o ran Cymru.

(4) Mae Erthygl 2 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 2—

(i)yn y geiriau o flaen pwynt (a), “retained EU law” wedi ei roi yn lle “other Community legislation”;

(ii)ym mhwyntiau (b) a (c), “Regulation (EC) No 1069/2009” wedi ei roi yn lle “Regulation (EC) No 1774/2002”;

(iii)ym mhwynt (d), “the Mining Waste Directive (gweler rheoliad 2A)” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “Directive 2006/21/EC” hyd at y diwedd;

(b)ym mharagraff 3, y geiriau o “Without prejudice” hyd at “Community legislation,” wedi eu hepgor;

(c)paragraff 4 wedi ei hepgor.

[F10(5)  Mae Erthygl 5 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 1, “A” wedi ei roi yn lle “Member States shall take appropriate measures to ensure that a”;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff 1—

1A.  Any decision as to whether a substance or object is a by-product must be made—

(a)in accordance with any regulations setting out detailed criteria on the application of the conditions in paragraph 1 to specific substances or objects; and

(b)having regard to any guidance published by the Welsh Ministers or the Natural Resources Body for Wales for the purposes of this Article.;

(c)paragraffau 2 a 3 wedi eu hepgor.

(6) Mae Erthygl 6 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 1, “Waste” wedi ei roi yn lle “Member States shall take appropriate measures to ensure that waste”;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff 1—

1A.  Any decision as to whether a substance or object has ceased to be waste must be made—

(a)in accordance with any regulations or retained direct EU legislation (within the meaning given to that expression in the European Union (Withdrawal) Act 2018) setting out detailed criteria on the application of the conditions in paragraph 1 to specific types of waste; and

(b)having regard to any guidance published by the Welsh Ministers or the Natural Resources Body for Wales for the purposes of this Article.;

(c)ym mharagraff 2—

(i)yr is-baragraff cyntaf wedi ei hepgor;

(ii)yn y ail is-baragraff, “Any detailed criteria set out in guidance as referred to in paragraph 1A” wedi ei roi yn lle “Those detailed criteria”;

(iii)y trydydd a’r pedwerydd is-baragraffau wedi eu hepgor;

(d)paragraff 3 wedi ei hepgor;

(e)ym mharagraff 4—

(i)yn yr is-baragraff cyntaf—

(aa)yn y frawddeg gyntaf, “Where criteria have not been set out as referred to in paragraph 1A(a), the Natural Resources Body for Wales” wedi ei roi yn lle’r geiriau o’r dechrau hyd at “Member State”;

(bb)yr ail frawddeg wedi ei hepgor;

(ii)yn yr ail is-baragraff—

(aa)“The Natural Resources Body for Wales” wedi ei roi yn lle “Member States”;

(bb)“by competent authorities” wedi ei hepgor.

(7) Mae Erthygl 7 i’w darllen fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei fewnosod o flaen paragraff 1—

A1.  In this Article, the “list of waste” means the list contained in the Annex to Commission Decision 2000/532/EC, as that list has effect in Wales.;

(b)ym mharagraff 1—

(i)y frawddeg gyntaf a’r ail frawddeg wedi eu hepgor;

(ii)“The list of waste shall, except as provided in Commission Decision 2000/532/EC, be binding as regards determination of the waste which is to be considered as hazardous waste or as non-hazardous waste.” wedi ei roi yn lle’r drydedd frawddeg;

(c)paragraffau 2, 3, 6 a 7 wedi eu hepgor.]

(8) Mae Atodiad 3 i’w ddarllen fel pe bai, yng nghofnod HP 9, yn yr ail frawddeg, “in the Member States” wedi ei hepgor.

(9) Ym mharagraff (3) ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

(5Ar ôl rheoliad 2, mewnosoder—

Ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio” yn rheoliad 2

2A.(1) Yn rheoliad 2(4)(a)(iii), ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio” (“the Mining Waste Directiveyw Cyfarwyddeb 2006/21/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli gwastraff o ddiwydiannau echdynnu, gan ei darllen yn unol â pharagraffau (2) i (4).

(2) Mae Erthygl 2 i’w darllen fe pe bai—

(a)ym mharagraff 2(c), y cyfeiriad at Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC yn gyfeiriad at yr Erthygl honno o’i darllen yn unol â pharagraff (4) o’r rheoliad hwn;

(b)paragraffau 3 a 4 wedi eu hepgor.

(3) Mae Erthygl 3(1) i’w darllen fel pe bai “Article 3(1) of the Waste Framework Directive, as read with Articles 5 and 6 of that Directive” wedi ei roi yn lle “Article 1(a) of Directive 75/442/EC”.

(4) At ddibenion paragraff (2)(a), mae Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC i’w darllen fel pe bai—

(a)y cyfeiriad cyntaf at “Member States” yn gyfeiriad at yr Weinidogion Cymru neu Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

(b)ar y diwedd, y canlynol wedi ei fewnosod—

and “environmental objectives”, in relation to a river basin district within the meaning of the Water Environment (Water Framework Directive) (England and Wales) Regulations 2017 has the same meaning as in those Regulations..

(6Yn rheoliad 7(10)F11..., ar y diwedd, mewnosoder “o’i ddarllen yn unol â pharagraff (11).

[F12(7) Ar ôl rheoliad 7(10) mewnosoder—

(11) At ddibenion rheoliad 7(10) mae Cyfarwyddeb 1999/31/EC i’w ddarllen fel pe bai—

(a)yn Erthygl 2—

(i)ym mhwynt (a), y cyfeiriad at y diffiniad o ‘waste’ wedi ei hepgor;

(ii)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl pwynt (a)—

(aa)‘Waste’ has the meaning given in Article 3(1) of Directive 2008/98/EC (“the Waste Framework Directive”), as read with Articles 5 and 6 of that Directive“;

(b)yn Erthygl 3—

(i)ym mharagraff (2) “The” wedi ei roi yn lle “Without prejudice to existing Community legislation the”;

(ii)y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (3)—

(3)  The management of extractive waste, within the meaning given in regulation 2(1) of the Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2016, is excluded from the scope of this Directive where it falls within the scope of Schedule 20, or paragraph 8(a) or (b) of Schedule 22, to those Regulations.]

Diwygiadau Testunol

F6Rhl. 7(2) wedi ei amnewid (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(3)(a)

F7Rhl. 7(3) wedi ei hepgor (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) yn rhinwedd Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(3)(b)

F8Geiriau yn rhl. 7(4) wedi eu hamnewid (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(3)(c)(i)

F9Geiriau yn rhl. 7(4) wedi eu hamnewid (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(3)(c)(ii)

F10Geiriau yn rhl. 7(4) wedi eu hamnewid (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(3)(c)(iii)

F11Geiriau yn rhl. 7(6) wedi eu hepgor (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) yn rhinwedd Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(3)(d)

F12Rhl. 7(7) wedi ei amnewid (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(3)(e)

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 7 mewn grym ar 31.12.2020 ar diwrnod cwblhau CG (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)(b)

I9Rhl. 7 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau’r CG (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005LL+C

8.—(1Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(17) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn is-baragraff (a), ar y diwedd mewnosoder “, ac fel y’i darllenir yn unol â rheoliad 2A”;

(b)yn is-baragraff (b)(i), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i darllenir gydag Erthyglau 5 a 6 o’r Gyfarwyddeb honno”.

(3Ar ôl rheoliad 2 mewnosoder—

Ystyr y Gyfarwyddeb Wastraff

2A.(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae’r Gyfarwyddeb Wastraff i’w darllen yn unol â’r rheoliad hwn.

(2) Mae cyfeiriad at un neu fwy o Aelod-wladwriaethau mewn darpariaeth sy’n gosod rhwymedigaeth ar Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau neu sy’n rhoi disgresiwn i Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau i’w ddarllen fel cyfeiriad at yr awdurdod priodol neu’r awdurdod lleol a oedd, yn union cyn [F13diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu (yn yr ystyr a roddir i’r ymadrodd “IP completion day” yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020)], yn gyfrifol am gydymffurfiaeth y Deyrnas Unedig â’r rhwymedigaeth honno neu’n cael arfer y disgresiwn hwnnw o ran Cymru.

(3) Mae Erthygl 2 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 2—

(i)yn y geiriau o flaen pwynt (a), “retained EU law” wedi ei roi yn lle “other Community legislation”;

(ii)ym mhwyntiau (b) a (c), “Regulation (EC) No 1069/2009” wedi ei roi yn lle “Regulation (EC) No 1774/2002” ;

(iii)ym mhwynt (d), “the Mining Waste Directive” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “Directive 2006/21/EC” hyd at y diwedd;

(b)ym mharagraff 3, y geiriau o “Without prejudice” hyd at “Community legislation,” wedi eu hepgor;

(c)paragraff 4 wedi ei hepgor.

F14(4) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F15(5)  Mae Erthygl 5 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 1, “A” wedi ei roi yn lle “Member States shall take appropriate measures to ensure that a”;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff 1—

1A.  Any decision as to whether a substance or object is a by-product must be made—

(a)in accordance with any regulations setting out detailed criteria on the application of the conditions in paragraph 1 to specific substances or objects; and

(b)having regard to any guidance published by the Welsh Ministers or the Natural Resources Body for Wales for the purposes of this Article.;

(c)paragraffau 2 a 3 wedi eu hepgor.

(6) Mae Erthygl 6 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 1, “Waste” wedi ei roi yn lle “Member States shall take appropriate measures to ensure that waste”;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff 1—

1A.  Any decision as to whether a substance or object has ceased to be waste, must be made—

(a)in accordance with any regulations or retained direct EU legislation (within the meaning given to that expression in the European Union (Withdrawal) Act 2018) setting out detailed criteria on the application of the conditions in paragraph 1 to specific types of waste; and

(b)having regard to any guidance published by the Welsh Ministers or the Natural Resources Body for Wales for the purposes of this Article.;

(c)ym mharagraff 2—

(i)yr is-baragraff cyntaf wedi ei hepgor;

(ii)yn yr ail is-baragraff “Any detailed criteria set out in guidance as referred to in paragraph 1A” wedi ei roi yn lle “Those detailed criteria”;

(iii)y trydydd a’r pedwerydd is-baragraffau wedi eu hepgor;

(d)paragraff 3 wedi ei hepgor;

(e)ym mharagraff 4—

(i)yn yr is-baragraff cyntaf—

(aa)yn y frawddeg gyntaf, “Where criteria have not been set out as referred to in paragraph 1A(a), the Natural Resources Body for Wales” wedi ei roi yn lle’r geiriau o’r dechrau hyd at “Member State”;

(bb)yr ail frawddeg wedi ei hepgor;

(ii)yn yr ail is-baragraff—

(aa)“The Natural Resources Body for Wales” wedi ei roi yn lle “Member States”;

(bb)“by competent authorities” wedi ei hepgor.

(7) Mae Erthygl 7 i’w darllen fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei fewnosod o flaen paragraff 1—

A1.  In this Article, the “list of waste” means the list contained in the Annex to Commission Decision 2000/532/EC, as that list has effect in Wales.;

(b)ym mharagraff 1—

(i)y frawddeg gyntaf a’r ail frawddeg wedi eu hepgor;

(ii)“The list of waste shall, except as provided in Commission Decision 2000/532/EC, be binding as regards determination of the waste which is to be considered as hazardous waste or as non-hazardous waste.” Wedi ei roi yn lle’r drydedd frawddeg;

(c)paragraffau 2, 3, 6 a 7 wedi eu hepgor.]

(8) Mae Erthygl 19 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 1, “national” wedi ei roi yn lle “Community”;

(b)ym mharagraff 2, “Wales” wedi ei roi yn lle “a Member State”.

(9) Mae Atodiad 3 i’w ddarllen fel pe bai, yng nghofnod HP 9, yn yr ail frawddeg, “in the Member States” wedi ei hepgor.

(10) Ym mharagraff (2) ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

Ystyr y “Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio”F16...

2B.(1) Yn rheoliad 2A(3)(a)(iii), ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio” (“the Mining Waste Directiveyw Cyfarwyddeb 2006/21/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli gwastraff o ddiwydiannau echdynnu, o’i darllen yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2) Mae Erthygl 2 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 2(c), y cyfeiriad at Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC yn gyfeiriad at y Gyfarwyddeb honno o’i darllen yn unol â pharagraff (7) o’r rheoliad hwn;

(b)paragraffau 3 a 4 wedi eu hepgor.

(3) Mae Erthygl 3(1) i’w darllen fel pe bai “Article 3(1) of the Waste Directive, as read with Articles 5 and 6 of that Directive” wedi ei roi yn lle “Article 1(a) of Directive 75/442/EEC”.

F17(4) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F17(5) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F17(6) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(7) At ddibenion paragraff (2)(a), mae Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC i’w darllen fel pe bai—

(a)y cyfeiriad cyntaf at “Member States” yn gyfeiriad at yr awdurdod priodol;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar y diwedd—

and “environmental objectives”, in relation to a river basin district within the meaning of the Water Environment (Water Framework Directive) (England and Wales) Regulations 2017, has the same meaning as in those Regulations..

(4Yn rheoliad 5(1)—

(a)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) yw Gweinidogion Cymru, CANC neu’r Asiantaeth;”;

(b)ar ôl y diffiniad o “gwastraff peryglus” (“hazardous waste”) mewnosoder—

[F18ystyr “y Gyfarwyddeb Tirlenwi” (“theLandfillDirective”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb (EU) 2018/850, gan ei darllen fel pe bai—

(a)

yn Erthygl 2—

(i)

ym mhwynt (a)—

(aa)

y cyfeiriad at y diffiniad o ‘waste’ wedi ei hepgor; a

(bb)

“the Waste Framework Directive” wedi ei roi yn lle “Directive 2008/98/EC”;

(ii)

y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl pwynt (a)—

(aa)‘waste’ has the meaning given by regulation 2(1)(b) of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005;

(b)

yn Erthygl 3—

(i)

ym mharagraff 2, “The” wedi ei roi yn lle “Without prejudice to existing Community legislation the”;

(ii)

y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff 3—

3.  The management of extractive waste, within the meaning given in regulation 2(1) of the Environmental Permitting Regulations, is excluded from the scope of this Directive where it falls within the scope of Schedule 20, or paragraph 8(a) or (b) of Schedule 22, to those Regulations.]

(a)yn Erthygl 2—

(i)

yn lle pwynt (a) rhodder—

(a)‘waste’ has the meaning given by regulation 2(1)(b) of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005;;

(ii)

yn lle pwynt (c) rhodder—

(c)‘hazardous waste’ has the meaning given in regulation 6 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005.;

(b)yn Erthygl 3(2), “Without prejudice to existing Community legislation,” wedi ei hepgor.

(5Yn rheoliad 8—

(a)ym mharagraff (2)—

(i)hepgorer y geiriau o “gan yr Ysgrifennydd Gwladol” hyd at “yn ôl y digwydd,”;

(ii)yn lle “ag Erthygl 7(2) o’r Gyfarwyddeb Wastraff” rhodder “â pharagraff (3)”;

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) At ddibenion paragraff (2), penderfynir bod swp penodol o wastraff yn beryglus—

(a)o ran Lloegr—

(i)os yw o fath a restrir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 62A(2) o Ddeddf 1990;

(ii)os yw’n destun penderfyniad gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan reoliad 8 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru a Lloegr) 2005(18);

(b)o ran Gogledd Iwerddon, os yw’n destun penderfyniad gan yr Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig o dan reoliad 9 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Gogledd Iwerddon) 2005(19);

(c)o ran yr Alban, os yw’n destun penderfyniad gan Weinidogion yr Alban, am fod Gweinidogion yr Alban o’r farn bod y gwastraff yn amlygu un neu ragor o’r nodweddion peryglus a restrir yn Atodiad III..

(6Yn rheoliad 9—

(a)ym mharagraff (2)—

(i)hepgorer y geiriau o “gan yr Ysgrifennydd Gwladol” hyd at “yn ôl y digwydd,”;

(ii)yn lle “ag Erthygl 7(2) o’r Gyfarwyddeb Wastraff” rhodder “â pharagraff (3)”;

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) At ddibenion paragraff (2), penderfynir bod swp penodol o wastraff yn wastraff nad yw’n beryglus os nad yw’n destun penderfyniad—

(a)o ran Lloegr, gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan reoliad 9 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru a Lloegr) 2005;

(b)o ran Gogledd Iwerddon, gan yr Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig o dan reoliad 10 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Gogledd Iwerddon) 2005;

(c)o ran yr Alban, gan Weinidogion yr Alban, am fod Gweinidogion yr Alban o’r farn nad yw’r gwastraff yn amlygu unrhyw nodweddion peryglus a restrir yn Atodiad III..

(7Yn rheoliadau 47(5B) a 48(6B) F19..., yn lle “Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/97/EU” rhodder “y Gyfarwyddeb Dirlenwi”.

(8Yn rheoliad 60(1), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), hepgorer o “ac” hyd at “Wastraff”.

Diwygiadau Testunol

F13Geiriau yn rhl. 8(3) wedi eu hamnewid (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(4)(a)(i)(aa)

F14Geiriau yn rhl. 8(3) wedi eu hepgor (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) yn rhinwedd Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(4)(a)(i)(bb)

F15Geiriau yn rhl. 8(3) wedi eu hamnewid (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(4)(a)(i)(cc)

F16Geiriau yn rhl. 8(3) wedi eu hepgor (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) yn rhinwedd Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(4)(a)(ii)(aa)

F17Geiriau yn rhl. 8(3) wedi eu hepgor (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) yn rhinwedd Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(4)(a)(ii)(bb)

F18Geiriau yn rhl. 8(4)(b) wedi eu hamnewid (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(4)(b)

F19Geiriau yn rhl. 8(7) wedi eu hepgor (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) yn rhinwedd Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(4)(c)

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 8 mewn grym ar 31.12.2020 ar diwrnod cwblhau CG (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)(b)

I11Rhl. 8 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau’r CG (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011LL+C

9.—(1Mae Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011(20) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” F20..., ar y diwedd, mewnosoder “gan ei darllen yn unol â pharagraffau (3) i (8)”.

(3[F21Ar ôl rheoliad 2(2)] mewnosoder—

(3) Mae cyfeiriad at un neu fwy o Aelod-wladwriaethau mewn darpariaeth sy’n gosod rhwymedigaeth ar Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau neu sy’n rhoi disgresiwn i Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau i’w ddarllen fel cyfeiriad at Weinidogion Cymru, Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu awdurdod lleol a oedd, yn union cyn [F22diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu (yn yr ystyr a roddir i’r ymadrodd “IP completion day “ yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020)”], yn gyfrifol am gydymffurfiaeth y Deyrnas Unedig â’r rhwymedigaeth honno neu’n cael arfer y disgresiwn hwnnw o ran Cymru.

(4) Mae Erthygl 2 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 2—

(i)yn y geiriau o flaen pwynt (a), “retained EU law” wedi ei roi yn lle “other Community legislation”;

(ii)ym mhwyntiau (b) a (c), “Regulation (EC) No 1069/2009” wedi ei roi yn lle “Regulation (EC) No 1774/2002”;

(iii)ym mhwynt (d), “the Mining Waste Directive (see regulation 2A)” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “Directive 2006/21/EC” hyd at y diwedd;

(b)ym mharagraff 3, y geiriau o “Without prejudice” hyd at “Community legislation,” wedi eu hepgor;

(c)paragraff 4 wedi ei hepgor.

[F23(5)  Mae Erthygl 5 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 1, “A” wedi ei roi yn lle “Member States shall take appropriate measures to ensure that a”;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff 1—

1A.  Any decision as to whether a substance or object is a by-product must be made—

(a)in accordance with any regulations setting out detailed criteria on the application of the conditions in paragraph 1 to specific substances or objects; and

(b)having regard to any guidance published by the Welsh Ministers or the Natural Resources Body for Wales for the purposes of this Article.;

(c)paragraffau 2 a 3 wedi eu hepgor.

(6) Mae Erthygl 6 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 1, “Waste” wedi ei roi yn lle “Member States shall take appropriate measures to ensure that waste”;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff 1—

1A.  Any decision as to whether a substance or object has ceased to be waste must be made—

(a)in accordance with any regulations or retained direct EU legislation (within the meaning given to that expression in the European Union (Withdrawal) Act 2018) setting out detailed criteria on the application of the conditions in paragraph 1 to specific types of waste; and

(b)having regard to any guidance published by the Welsh Ministers or the Natural resources Body for Wales for the purposes of this Article.;

(c)ym mharagraff 2—

(i)yr is-baragraff cyntaf wedi ei hepgor;

(ii)yn yr ail is-baragraff, “Any detailed criteria set out in guidance as referred to in paragraph 1A” wedi ei roi yn lle “Those detailed criteria”;

(iii)y trydydd a’r pedwerydd is-baragraffau wedi eu hepgor;

(d)paragraff 3 wedi ei hepgor;

(e)ym mharagraff 4—

(i)yn yr is-baragraff cyntaf—

(aa)yn y frawddeg gyntaf, “Where criteria have not been set out as referred to in paragraph 1A(a), the Natural Resources Body for Wales” wedi ei roi yn lle’r geiriau o’r dechrau hyd at “Member State”;

(bb)yr ail frawddeg wedi ei hepgor;

(ii)yn yr ail is-baragraff—

(aa)“The Natural Resources Body for Wales” wedi ei roi yn lle “Member States”;

(bb)“by competent authorities” wedi ei hepgor.

(7) Mae Erthygl 7 i’w darllen fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei fewnosod o flaen paragraff 1—

A1.  In this Article, the “list of waste” means the list contained in the Annex to Commission Decision 2000/532/EC, as that list has effect in Wales.;

(b)ym mharagraff 1—

(i)y frawddeg gyntaf a’r ail frawddeg wedi eu hepgor;

(ii)“The list of waste shall, except as provided in Commission Decision 2000/532/EC, be binding as regards determination of the waste which is to be considered as hazardous waste or as non-hazardous waste.” wedi ei roi yn lle’r drydedd frawddeg;

(c)paragraffau 2, 3, 6 a 7 wedi eu hepgor.]

(8) Mae Atodiad 3 i’w ddarllen fel pe bai, yng nghofnod HP 9, yn yr ail frawddeg, “in the Member States” wedi ei hepgor.

(4Ar ôl rheoliad 2, mewnosoder—

Ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio” yn rheoliad 2

2A.(1) Yn rheoliad 2(4)(a)(iii), ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio” (“the Mining Waste Directiveyw Cyfarwyddeb 2006/21/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli gwastraff o ddiwydiannau echdynnu, gan ei darllen yn unol â pharagraffau (2) i (4).

(2) Mae Erthygl 2 i’w darllen fe pe bai—

(a)ym mharagraff 2(c), y cyfeiriad at Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC yn gyfeiriad at yr Erthygl honno o’i darllen yn unol â pharagraff (4) o’r rheoliad hwn;

(b)paragraffau 3 a 4 wedi eu hepgor.

(3) Mae Erthygl 3(1) i’w darllen fel pe bai “Article 3(1) of the Waste Framework Directive, as read with Articles 5 and 6 of that Directive” wedi ei roi yn lle “Article 1(a) of Directive 75/442/EC”.

(4) At ddibenion paragraff (2)(a), mae Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC i’w darllen fel pe bai—

(a)y cyfeiriad cyntaf at “Member States” yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru neu Gorff Adnoddau Naturiol Cymru;

(b)ar y diwedd, y canlynol wedi ei fewnosod—

and “environmental objectives”, in relation to a river basin district within the meaning of the Water Environment (Water Framework Directive) (England and Wales) Regulations 2017 has the same meaning as in those Regulations..

Diwygiadau Testunol

F20Geiriau yn rhl. 9(2) wedi eu hepgor (31.12.2020 immediately before IP completion day) yn rhinwedd Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(5)(a)

F21Geiriau yn rhl. 9(3) wedi eu hamnewid (31.12.2020 immediately before IP completion day) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(5)(b)(i)

F22Geiriau yn rhl. 9(3) wedi eu hamnewid (31.12.2020 immediately before IP completion day) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(5)(b)(ii)

F23Geiriau yn rhl. 9(3) wedi eu hamnewid (31.12.2020 immediately before IP completion day) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(5)(b)(iii)

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 9 mewn grym ar 31.12.2020 ar diwrnod cwblhau CG (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)(b)

I13Rhl. 9 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau’r CG (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)(b)

Hannah Blythyn

Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth leol, o dan awdurdod y Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

28 Chwefror 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn (ac eithrio Rhan 2) wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau ym mharagraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p.16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill yng nghyfraith UE a ddargedwir sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth ym maes gwastraff. Mae Rhan 3 yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac mae Rhan 4 yn diwygio is-ddeddfwriaeth.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn wedi ei gwneud drwy arfer y pwerau yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), ac yn diweddaru cyfeiriadau at Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t 3) a Chyfarwyddeb 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff (OJ Rhif L 182, 16.07.1999, t 1).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51), adran 27(1)(a) a Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7), yr Atodlen, Rhan 1. Mae wedi ei diddymu yn rhagolygol gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), adran 1 o’r diwrnod ymadael (gweler adran 20 o’r Ddeddf honno).

(3)

Yn rhinwedd adran 59(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran unrhyw fater, neu at unrhyw ddiben, os ydynt wedi eu dynodi o ran y mater hwnnw neu at y diben hwnnw.

(4)

O.S. 2005/850, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae O.S. 2005/850 yn cael effaith fe pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.

(6)

2010 mccc 8, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

OJ Rhif L 328, 10.12.2011, t 49.

(8)

OJ Rhif L 150, 14.6.2017, t 1.

(9)

O.S. 2004/1490 (Cy. 155), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/971 (Cy. 141); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(10)

O.S. 2005/1806 (Cy. 138), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/971 (Cy. 141) ac O.S. 2018/721 (Cy. 140); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(11)

O.S. 2011/1014 (Cy. 152), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/691 (Cy. 189); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(12)

2010 mccc 8. Mewnosodwyd adran 9A gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, adran 67.

(13)

OJ Rhif L 102, 11.4.2006, t 15, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 118, 18.7.2009, t 14).

(14)

OJ Rhif L 327, 22.12.2000, t 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU (OJ Rhif L 311, 31.10.2014, t 32).

(15)

O.S. 2017/407, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(19)

S.R. 2005 Rhif 300; offerynnau diwygio perthnasol yw S.R 2011 Rhif 127 ac S.R 2015 Rhif 288.

(20)

O.S. 2011/1014 (Cy.152), a ddiwygiwyd gan O.S.2016/691 (Cy.189); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.