xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 829 (Cy. 152)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 4) 2019

Gwnaed

25 Mawrth 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 126(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 4) 2019.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 April 2019

2.  Y diwrnod penodedig i Ran 7 (gwasanaethau fferyllol) o’r Ddeddf ddod i rym yw 1 April 2019.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

5 Mawrth 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ddarpariaethau o’r Ddeddf sy’n ymwneud â gwasanaethau fferyllol ar 1 Ebrill 2019.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 24 Hydref 2017

2017/949 (Cy. 237)

Adran 34 Hydref 2017

2017/949 (Cy. 237)

Adran 941 Chwefror 2018

2018/1 (Cy. 1)

Rhan 51 Chwefror 2018

2018/1 (Cy. 1)

Rhan 831 Mai 2018

2018/605 (Cy. 116)

Adran 1194 Hydref 2017

2017/949 (Cy. 237)

Atodlen 431 Mai 2018

2018/605 (Cy. 116)

Gweler hefyd adran 126(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 3 Gorffennaf 2017 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).