xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
11 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”)(1).
Mae Gweinidogion Cymru, yn unol ag adran 146(1) o Ddeddf 2014, wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn meddwl eu bod yn addas ynghylch drafft o’r cod ymarfer ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol.
Gosododd Gweinidogion Cymru, yn unol ag adran 146(2) o Ddeddf 2014, ddrafft o’r cod ymarfer ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 20 Chwefror 2019.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Ymarfer ar gyfer Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2019.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y cod ymarfer” yw’r cod ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol, a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 15 Ebrill 2019.
2. Y diwrnod penodedig i’r cod ymarfer ddod i rym yw 29 Ebrill 2019.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Ebrill 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn penodi 29 Ebrill 2019 fel y diwrnod y daw’r cod ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol i rym (“y cod ymarfer”).
Dyroddwyd y cod ymarfer gan Weinidogion Cymru o dan adran 145(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) ar 15 Ebrill 2019, ac mae’n nodi sut y caiff darparwyr a rheolwyr gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol gydymffurfio â Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”) (O.S. 2019/291 (Cy. 69)). Mae Rheoliadau 2019 yn gosod gofynion ar ddarparwyr a rheolwyr gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol wrth iddynt arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â mabwysiadu.
Mae adran 145(3) o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, weithredu yn unol ag unrhyw ofynion perthnasol sydd wedi eu cynnwys mewn cod a ddyroddwyd o dan adran 145(1) a rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys ynddo.