2020 Rhif 1581 (Cy. 331)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru

Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraffau 1(1) ac 11M(1) o Atodlen 2, paragraff 7 o Atodlen 4, a pharagraff 21(b) o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181.

Yn unol â pharagraff 4(a) o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, ymgynghorwyd â’r Ysgrifennydd Gwladol wrth lunio’r Rheoliadau hyn.

Yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru2 ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.