xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1606 (W. 333)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2020

Made

18 Rhagfyr 2020

Laid before Parliament

22 Rhagfyr 2020

Coming into force

30 Ionawr 2021

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 94(5) a (5A), 95(3) a (3A) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 30 Ionawr 2021.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(2)(a), yn lle “31 Ionawr 2021” rhodder “30 Medi 2021”.

(3Yn rheoliad 2(2), yn lle “31 Ionawr 2021” rhodder “30 Medi 2021”.

(4Yn rheoliad 4(a), yn lle “1 Chwefror 2021” rhodder “1 Hydref 2021”.

(5Yn rheoliad 4(b), yn lle “31 Ionawr 2021” rhodder “30 Medi 2021”.

Kirsty Williams

Minister for Education, one of the Welsh Ministers

18 December 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020 (“Rheoliadau 2020”).

Diwygiodd Rheoliadau 2020 Reoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005, o dan amgylchiadau penodol sy’n ymwneud â mynychder neu drosglwyddiad y coronafeirws, er mwyn caniatáu—

(a)panelau apêl a chanddynt ddau aelod, a

(b)i banelau apêl gynnal gwrandawiadau drwy fynediad o bell neu benderfynu apelau ar sail gwybodaeth ysgrifenedig.

Mae rheoliad 2(2) o Reoliadau 2020 yn darparu bod y diwygiadau hynny yn peidio â chael effaith ar 31 Ionawr 2021.

Prif effaith rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yw diwygio’r dyddiad 31 Ionawr 2021 yn Rheoliadau 2020 i 30 Medi 2021. Golyga hyn fod y diwygiadau a wneir gan Reoliadau 2020 yn parhau i gael effaith tan 30 Medi 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1998 p. 31; gweler adran 142(1) am y diffiniadau o “the Assembly”, “prescribed” a “Regulations”. Mewnosodwyd is-adran (5A) yn adran 94 gan adran 50 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). Mewnosodwyd is-adran (3A) yn adran 95 gan baragraff 9 o Atodlen 4 i Ddeddf Addysg 2002.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).