xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Treth Trafodiadau Tir, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
am 10.20 a.m. ar 21 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
am. 5.00 p.m. ar 21 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym
22 Rhagfyr 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 24(1) a 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017(1).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 22 Rhagfyr 2020.
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2018” (“the 2018 Regulations”) dylai ffurfio is-baragraff eu hunain a cael ei rifo fel is-baragraff(2).
(b)Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
3. Yn ddarostyngedig i reoliad 4, mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â’r trafodiadau tir a ganlyn sydd â dyddiad effeithiol ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020—
(a)trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch y mae Tabl 2 o’r Atodlen i Reoliadau 2018 yn gymwys iddynt;
(b)trafodiadau eiddo amhreswyl y mae Tabl 3 o’r Atodlen i Reoliadau 2018 yn gymwys iddynt; a
(c)cydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent y mae Tabl 4 o’r Atodlen i Reoliadau 2018 yn gymwys iddi.
4. Nid yw’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad a bennir yn rheoliad 3(a) (trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch)—
(a)y rhoddwyd effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo ac a gyflawnwyd yn sylweddol cyn 22 Rhagfyr 2020; neu
(b)y rhoddwyd effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo cyn 22 Rhagfyr 2020 ac nad yw wedi ei hepgor gan reoliad 5.
5. Mae trafodiad wedi ei hepgor gan y rheoliad hwn os yw’n drafodiad a bennir yn rheoliad 3(a) y rhoddwyd effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo cyn 22 Rhagfyr 2020—
(a)pan geir unrhyw amrywiad i’r contract, neu pan aseinir hawliau o dan y contract, ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020;
(b)pan roddir effaith i’r trafodiad o ganlyniad i arfer unrhyw opsiwn, hawl rhagbrynu neu hawl debyg ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020; neu
(c)pan geir, ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020, aseiniad, is-werthiant neu drafodiad arall yn ymwneud â’r cyfan neu ran o bwnc y contract, y caiff person heblaw’r prynwr o dan y contract hawl i alw am drawsgludiad o ganlyniad iddo.
6.—(1) Mae’r Atodlen i Reoliadau 2018 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(2) Yn lle Tabl 2 rhodder—
Band treth | Y gydnabyddiaeth berthnasol | Y gyfradd dreth ganrannol |
---|---|---|
Y band treth cyntaf | Nid mwy na £180,000 | 4% |
Yr ail fand treth | Mwy na £180,000 ond nid mwy na £250,000 | 7.5% |
Y trydydd band treth | Mwy na £250,000 ond nid mwy na £400,000 | 9% |
Y pedwerydd band treth | Mwy na £400,000 ond nid mwy na £750,000 | 11.5% |
Y pumed band treth | Mwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,000 | 14% |
Y chweched band treth | Mwy na £1,500,000 | 16%”; |
(3) Yn lle Tabl 3 rhodder—
Band treth | Y gydnabyddiaeth berthnasol | Y gyfradd dreth ganrannol |
---|---|---|
Band cyfradd sero | Nid mwy na £225,000 | 0% |
Y band treth cyntaf | Mwy na £225,000 ond nid mwy na £250,000 | 1% |
Yr ail fand treth | Mwy na £250,000 ond nid mwy na £1,000,000 | 5% |
Y trydydd band treth | Mwy na £1,000,000 | 6%”; a |
(4) Yn lle Tabl 4 rhodder—
Band treth | Y gydnabyddiaeth berthnasol | Y gyfradd dreth ganrannol |
---|---|---|
Band cyfradd sero LA | Nid mwy na £225,000 | 0% |
Y band treth cyntaf | Mwy na £225,000 ond nid mwy na £2,000,000 | 1% |
Yr ail fand treth | Mwy na £2,000,000 | 2%”. |
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
Am 10.20 a.m. ar 21 Rhagfyr 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/128) (“Rheoliadau 2018”) er mwyn mewnosod bandiau treth a chyfraddau treth canrannol diwygiedig ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch, trafodiadau eiddo amhreswyl a chydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent.
Mae rheoliad 3 yn cymhwyso’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol diwygiedig at y trafodiadau tir a nodwyd uchod pan fo dyddiad effeithiol y trafodiad hwnnw yn syrthio ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020.
Mae rheoliad 4 yn mynd ymlaen i nodi eithriadau i gymhwysiad cyffredinol y bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol diwygiedig mewn perthynas â thrafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch yn unig. Pan fo dyddiad effeithiol y trafodiadau hyn yn syrthio ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020, ond pan gafodd contractau eu cyfnewid neu pan gafodd y contract hwnnw ei gyflawni i raddau sylweddol cyn 22 Rhagfyr 2020, bydd y bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol blaenorol yn dal yn gymwys, oni bai bod un o’r eithriadau a nodir yn rheoliad 5 yn gymwys.
Mae rheoliad 6 yn nodi’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol diwygiedig a fydd yn gymwys i’r trafodiadau a bennir yn rheoliad 3.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.
O.S. 2018/128 (Cy. 32) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/794 (Cy. 174).