xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Gwnaed
29 Rhagfyr 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 57(3)(b) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Amaethyddiaeth 2020 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2020.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 i rym ar 1 Ionawr 2021—
(a)paragraffau 7 ac 8 o Ran 2 o Atodlen 5 (darpariaethau sy’n ymwneud â Chymru), a
(b)adran 46 (Cymru), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
29 Rhagfyr 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud gan Weinidogion Cymru ac maent yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) (“y Ddeddf”).
Mae rheoliad 2(a) yn dwyn i rym, ar 1 Ionawr 2021, baragraffau 7 ac 8 o Ran 2 o Atodlen 5 i’r Ddeddf.
Mae rheoliad 2(b) yn dwyn i rym, ar 1 Ionawr 2021, adran 46 o’r Ddeddf i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny.
Mae paragraff 7 o Atodlen 5 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud a chyhoeddi datganiad bod “amodau eithriadol yn y farchnad” (fel y diffinnir “exceptional market conditions” yn y paragraff hwnnw) yn bodoli sy’n cyfiawnhau rhoi ar gael bwerau a roddir gan baragraff 8 o Atodlen 5.
Mae paragraff 8 o Atodlen 5 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, tra bo datganiad a wneir o dan baragraff 7 yn cael effaith, roi, neu gytuno i roi, cymorth ariannol i gynhyrchwyr amaethyddol yng Nghymru, yn ddarostyngedig i’r amodau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.