Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau a nodir isod, ac yn y modd a eglurir, o ganlyniad i bwysau a blaenoriaethu gwaith sy’n gysylltiedig â’r feirws o’r enw’r Coronafeirws neu “coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2”, sy’n achosi’r clefyd o’r enw “COVID-19”.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud ag adnoddau dŵr2.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.