xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Cydraddoldeb, Cymru
Gwnaed
17 Mawrth 2021
Yn dod i rym
1 Ebrill 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 151(2) a 207(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1).
Yn unol ag adran 209(2) a (3)(b) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i gymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Cyn gwneud y Gorchymyn hwn, yn unol ag adran 152(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) (Cymru) 2021 a daw i rym ar 1 Ebrill 2021.
2. Yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (awdurdodau cyhoeddus: awdurdodau Cymreig perthnasol), o dan y pennawd “Local government”, yn y lle priodol mewnosoder—
“A corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021.”
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (“y Ddeddf”) drwy ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1)> at y rhestr o awdurdodau Cymreig perthnasol sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus o dan adran 149(1) o’r Ddeddf.
Mae’r awdurdodau Cymreig perthnasol a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 19 i’r Ddeddf yn awdurdodau sy’n bodloni’r prawf yn adran 157(2) o’r Ddeddf; hynny yw, maent yn awdurdodau Cymreig datganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gysylltiedig â Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1). Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau a gorchmynion cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2010 p. 15. Mae adran 151(2) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 19 drwy Orchymyn, er mwyn ychwanegu awdurdod Cymreig perthnasol at yr awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus o dan adran 149(1). Mae “relevant Welsh authority” wedi ei ddiffinio yn adran 157(2). Amnewidiwyd adran 157(2) gan baragraff 84(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4).