11.—(1) Rhaid i gorff GIG sydd o dan ddyletswydd i roi gwybod o dan adran 21(1) neu (2) o Ddeddf 2018 (cynlluniau datblygu unigol: Byrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG) gydymffurfio â’r ddyletswydd honno yn brydlon ac mewn unrhyw achos o fewn y cyfnod a ragnodir gan baragraff (2).
(2) Mae’r cyfnod rhagnodedig—
(a)yn dechrau â’r diwrnod y mae’r corff GIG yn cael yr atgyfeiriad o dan adran 20 o Ddeddf 2018, a
(b)yn dod i ben ar ddiwedd 6 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (a).
(3) Nid oes angen i’r corff GIG gydymffurfio â’r ddyletswydd i roi gwybod o dan adran 21(1) neu (2) o fewn y cyfnod a ragnodir gan baragraff (2) os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth.