RHAN 4RHIENI A PHOBL IFANC NAD OES GANDDYNT ALLUEDD

Pan nad oes gan berson ifanc alluedd37

1

Pan nad oes gan berson ifanc alluedd ar yr adeg berthnasol, mae cyfeiriadau at berson ifanc yn narpariaethau Deddf 2018 a restrir isod i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gynrychiolydd y person ifanc—

a

adran 11(3)(c) yn yr ail le y mae’n digwydd;

b

adran 11(4) yn yr ail le y mae’n digwydd;

c

adran 12(2)(b) yn yr ail le y mae’n digwydd;

d

adran 13(2)(d) yn yr ail le y mae’n digwydd;

e

adran 13(3) yn yr ail le y mae’n digwydd;

f

adran 14(3) yn yr ail le y mae’n digwydd;

g

adran 20(3)(a) a (b);

h

adran 22(1)(a) a (2)(a);

i

adran 23(8) yn yr ail le y mae’n digwydd;

j

adran 23(10) ac (11)(a);

k

adran 26(1)(b) yn y lle cyntaf y mae’n digwydd;

l

adran 27(1)(b) yn y lle cyntaf y mae’n digwydd;

m

adran 27(4);

n

adran 28(2)(a), (4), (5) a (7);

o

adran 31(7)(a), (8) a (9);

p

adran 32(1)(a);

q

adran 32(1)(b) yn y lle cyntaf y mae’n digwydd;

r

adran 32(3).

2

Pan nad oes gan berson ifanc alluedd ar yr adeg berthnasol, mae’r cyfeiriadau at bobl ifanc yn adran 9(3)(a) ac at fyfyrwyr yn adran 9(5) o Ddeddf 2018 yn y drefn honno i’w darllen fel pe baent yn cynnwys y person ifanc a chynrychiolydd y person ifanc.

3

Pan nad oes gan berson ifanc alluedd ar yr adeg berthnasol, mae cyfeiriadau at berson ifanc yn y rheoliadau isod i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gynrychiolydd y person ifanc—

a

rheoliad 10(2), (3) a (5);

b

rheoliad 14(3) a (4);

c

rheoliad 22(5)(a).