38. Pan nad oes gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n berson ifanc alluedd ar yr adeg berthnasol, mae’r cyfeiriadau yn y darpariaethau isod i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gynrychiolydd i’r person ifanc hwnnw—
(a)y cyfeiriad at y person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn y trydydd lle y mae’n digwydd yn adran 40(4) o Ddeddf 2018;
(b)y cyfeiriad at berson sy’n cael ei gadw’n gaeth yn y lle cyntaf y mae’n digwydd yn adran 40(5)(b) o Ddeddf 2018;
(c)y cyfeiriadau yn adrannau 41(2)(a) a 42(4) o Ddeddf 2018 at berson sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n berson ifanc;
(d)y cyfeiriad at berson sy’n cael ei gadw’n gaeth yn y lle cyntaf y mae’n digwydd yn adran 42(6) o Ddeddf 2018;
(e)y cyfeiriad at berson ifanc yn yr ail le y mae’n digwydd yn rheoliad 18(4)(b);
(f)y cyfeiriad at berson sy’n cael ei gadw’n gaeth yn y lle cyntaf y mae’n digwydd yn rheoliad 18(6).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 38 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)