ATODLEN 1ANGHENION RHESYMOL AM ADDYSG NEU HYFFORDDIANT

Rheoliadau 6, 7 a 9

Rhaglen astudio addas1

1

Y ffactorau y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu hystyried wrth benderfynu a oes posibilrwydd realistig y byddai dilyn rhaglen astudio arfaethedig neu barhau i ddilyn rhaglen astudio (gydag unrhyw addasiadau arfaethedig iddi) yn galluogi’r person ifanc i gyflawni deilliannau dymunol y person yw—

a

gallu’r person ifanc i ddilyn y rhaglen astudio;

b

addasrwydd y rhaglen astudio i gyflawni deilliannau dymunol y person ifanc;

c

unrhyw ffactorau eraill y mae’r awdurdod lleol yn ystyried yn rhesymol eu bod yn berthnasol.

2

Wrth ystyried y ffactorau a grybwyllir yn is-baragraff (1), rhaid i’r awdurdod lleol ystyried gwybodaeth berthnasol sy’n ymwneud â’r ffactorau hynny, gan gynnwys unrhyw wybodaeth a ddarperir—

a

gan y rheini sy’n ymwneud â darparu addysg neu hyfforddiant i’r person ifanc, neu’r rheini sydd wedi gwneud hynny yn ddiweddar;

b

gan broffesiynolion iechyd neu ofal cymdeithasol, gan gynnwys unrhyw rai sy’n ymwneud â’r person ifanc;

c

gan berchennog y sefydliad addysgol y gall rhaglen astudio arfaethedig gael ei dilyn ynddo;

d

gan bersonau sy’n darparu gwasanaethau, neu sydd wedi eu cyflogi gan gyrff sy’n darparu gwasanaethau, yn unol â threfniadau a wneir neu gyfarwyddydau a roddir o dan adran 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 197319 (darparu gwasanaethau gyrfaoedd).

Ffactorau ychwanegol pan fo person ifanc yn dilyn rhaglen astudio2

Pan fo’r person ifanc eisoes yn dilyn y rhaglen astudio, ni chaiff yr awdurdod lleol ddod i’r casgliad nad oes posibilrwydd realistig mwyach y byddai parhau i ddilyn y rhaglen astudio fel y’i bwriadwyd ar y dechrau yn galluogi’r person ifanc i gyflawni deilliannau dymunol y person oni bai ei fod wedi ystyried y ffactorau a ganlyn—

a

bod pobl ifanc yn datblygu ar gyfraddau gwahanol ac efallai na fydd cynnydd person ifanc tuag at gyflawni’r deilliannau dymunol yn amlwg tan yn ddiweddarach yn y rhaglen astudio;

b

bod y person ifanc yn disgwyl cael y cyfle i gwblhau’r rhaglen astudio fel y’i bwriadwyd ar y dechrau;

c

a yw newid sylweddol yn amgylchiadau personol neu anghenion y person ifanc wedi effeithio ar allu’r person ifanc i ddysgu.

Rhaglen astudio y bwriedir iddi bara am fwy na 2 flynedd3

1

Bwriedir ar y dechrau i’r rhaglen astudio addas y bwriedir i’r person ifanc ei dilyn (gan gynnwys pan fo’n rhaglen astudio ychwanegol o dan baragraff 5(1)) gael ei chynnal dros gyfnod o fwy na 2 flynedd.

2

Y ffactorau, pan fônt yn berthnasol, y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu hystyried yw—

a

pan fo’r rhaglen wedi ei chynllunio i ganiatáu i’r person ifanc gael mynediad at gwrs o addysg bellach neu hyfforddiant a ddilynir gan bobl ifanc nad oes ganddynt anghenion dysgu ychwanegol—

i

hyd arferol y cwrs ar gyfer pobl ifanc nad oes ganddynt anghenion dysgu ychwanegol, a

ii

a oes angen amser ychwanegol ar y person ifanc, o’i gymharu â’r rhan fwyaf o bobl ifanc eraill nad oes ganddynt anghenion dysgu ychwanegol, i gwblhau’r cwrs;

b

pan fo’r rhaglen astudio wedi ei chynllunio’n arbennig i ddarparu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer y person ifanc, a oes unrhyw resymau eithriadol sy’n ymwneud â gallu’r person ifanc i ddysgu fel na ellir cyflawni deilliannau dymunol y person yn realistig o fewn y cyfnod o 2 flynedd.

Estyn rhaglen astudio4

1

Nid yw’r person ifanc wedi gallu cwblhau rhaglen astudio (gan gynnwys pan fo’n rhaglen astudio ychwanegol o dan baragraff 5(1)) o fewn cyfnod para’r rhaglen fel y’i bwriadwyd ar y dechrau a bwriedir estyn y rhaglen i alluogi’r person ifanc i gyflawni deilliannau dymunol y person ar ddechrau’r rhaglen (“deilliannau gwreiddiol”) neu rai sy’n sylweddol debyg i’r deilliannau gwreiddiol (“deilliannau addasedig”).

2

Y ffactorau, pan fônt yn berthnasol, y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu hystyried yw—

a

a oes modd osgoi’r amgylchiadau sy’n arwain at yr estyniad arfaethedig;

b

a yw’r estyniad arfaethedig yn angenrheidiol i alluogi’r person ifanc i gwblhau’r rhaglen astudio a chyflawni’r deilliannau gwreiddiol neu’r deilliannau addasedig;

c

a yw’r estyniad arfaethedig at ddiben y dylid bod wedi ymdrin ag ef yn ystod cyfnod para gwreiddiol y rhaglen astudio a phan fo hynny’n wir, y rhesymau pam nad ymdriniwyd ag ef;

d

a yw’r estyniad arfaethedig yn gymesur â’r deilliannau gwreiddiol nad ydynt wedi eu cyflawni eto neu’r canlyniadau addasedig ac a oes angen hyd gwahanol o estyniad o dan yr amgylchiadau;

e

pan fo’r rhaglen astudio wedi ei hestyn yn flaenorol—

i

a yw’r estyniad arfaethedig yn codi o’r un ffeithiau â’r un blaenorol, a

ii

a oes rhesymau eithriadol pam nad oedd y person ifanc yn gallu cyflawni’r deilliannau yn ystod yr estyniad blaenorol.

Rhaglen astudio ychwanegol5

1

Mae’r rhaglen astudio y bwriedir i’r person ifanc ei dilyn yn ychwanegol at addysg bellach neu hyfforddiant y mae’r person ifanc eisoes wedi ei dilyn neu ei ddilyn.

2

Y ffactorau, pan fônt yn berthnasol, y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu hystyried yw—

a

nad yw’r person ifanc yn gallu elwa mewn ffordd ystyrlon ar yr addysg bellach flaenorol neu’r hyfforddiant blaenorol oherwydd—

i

bod yr addysg bellach flaenorol neu’r hyfforddiant blaenorol wedi syrthio gymaint islaw’r safon ddisgwyliedig fel na ellir honni’n rhesymol bod ei darparwr neu ei ddarparwr wedi cyflenwi’r addysg neu’r hyfforddiant sy’n angenrheidiol i gyflawni deilliannau dymunol y person ifanc wrth ei dilyn neu ei ddilyn,

ii

newid sylweddol yn amgylchiadau personol neu anghenion y person ifanc, neu

iii

unrhyw amgylchiadau eithriadol eraill;

b

pan fo’r person ifanc wedi dilyn yr addysg bellach flaenorol neu’r hyfforddiant blaenorol mewn ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach, na allai elfen hanfodol a sylweddol o’r addysg bellach neu’r hyfforddiant sy’n angenrheidiol i gyflawni deilliannau dymunol y person ifanc fod wedi ei chyflenwi fel rhan o’r addysg bellach flaenorol honno neu’r hyfforddiant blaenorol hwnnw;

c

pan fo’r addysg bellach flaenorol neu’r hyfforddiant blaenorol wedi para am lai na 2 flynedd, cyfanswm cyfnod para’r addysg bellach flaenorol honno neu’r hyfforddiant blaenorol hwnnw a chyfnod para’r rhaglen astudio arfaethedig ac a yw’r graddau y mae cyfanswm y cyfnod para hwnnw yn fwy na 2 flynedd yn rhesymol o dan bob un o’r amgylchiadau;

d

a oes unrhyw amgylchiadau eithriadol eraill i awgrymu nad yw’r person ifanc wedi cael mynediad effeithiol at addysg bellach neu hyfforddiant.

Amgylchiadau eithriadol eraill6

1

Mae’r amgylchiadau yn sylweddol debyg i un neu ragor o’r amgylchiadau a nodir ym mharagraff 3(1), 4(1) neu 5(1).

2

Y ffactorau, pan fônt yn berthnasol, y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu hystyried yw’r ffactorau a nodir ym mharagraff 3(2), 4(2) neu 5(2) sy’n cyfateb i ba un bynnag o’r amgylchiadau ym mharagraff 3(1), 4(1) neu 5(1) sy’n sylweddol debyg.

ATODLEN 2CYMHWYSO GYDAG ADDASIADAU DDEDDF 2018 MEWN PERTHYNAS Â PHERSONAU SY’N CAEL EU CADW’N GAETH MEWN YSBYTY O DAN RAN 3 O DDEDDF 1983

Rheoliadau 20, 22 a 23

1

1

Mae’r pwerau a’r dyletswyddau a roddir i awdurdod lleol neu a osodir ar awdurdod lleol gan Ran 2 o Ddeddf 2018, gan y Rheoliadau hyn neu fel arall o dan y Rhan honno, i’r graddau na fyddent yn gymwys mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc o fewn is-baragraff (3) oherwydd adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 neu adran 44(1) o Ddeddf 2018, yn gymwys i’r plentyn neu’r person ifanc gyda’r addasiadau y darperir ar eu cyfer yn is-baragraff (4).

2

Mae darpariaethau eraill o Ddeddf 2018, y Rheoliadau hyn ac unrhyw ddarpariaethau eraill o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno, i’r graddau y maent yn gymwys at ddibenion y pwerau hynny a’r dyletswyddau hynny neu fel arall yn ymwneud â’r plentyn neu’r person ifanc, yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc gyda’r addasiadau y darperir ar eu cyfer yn is-baragraff (4).

3

Mae plentyn neu berson ifanc o fewn yr is-baragraff hwn os yw’r plentyn neu’r person ifanc—

a

yn ddarostyngedig i orchymyn cadw, a

b

yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983.

4

Yr addasiadau yw—

a

mae cyfeiriadau, sut bynnag y’u mynegir, at awdurdod lleol sy’n gyfrifol (neu’n dod neu’n peidio â bod yn gyfrifol) am blentyn neu berson ifanc i’w dehongli fel pe baent yn gyfeiriadau at awdurdod lleol, sef yr awdurdod lleol perthnasol (neu sy’n dod neu’n peidio â bod yn awdurdod o’r fath) ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc ac yn unol â hynny nid yw adran 99(4) i fod yn gymwys i’r cyfeiriadau hynny;

b

hepgorer adran 13(2)(e);

c

yn adran 14, hepgorer is-adrannau (2)(b) a (4);

d

yn adran 15(1)—

i

ar ddiwedd paragraff (a), hepgorer “a”;

ii

ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder “ac”;

iii

ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

c

os nad yw—

i

yn ddarostyngedig i orchymyn cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “detention order” gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996), a

ii

yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

e

hepgorer adran 36;

f

os yw’r ysbyty yn llety ieuenctid perthnasol, nid yw’r dyletswyddau a osodir ar awdurdod cartref gan adrannau 40 a 42 yn gymwys;

g

yn adran 84(1)(a), ar y diwedd mewnosoder “neu reoliad 22(5) o Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021”;

h

yn adran 85(5)(a), ar ôl “42(6)” mewnosoder “a rheoliad 22(5) o Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021”;

i

yn rheoliad 16(1)(b), ar ôl “Ddeddf 2018” mewnosoder “neu reoliad 22(2)”.