xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 403 (Cy. 131)

Addysg, Cymru

Cydraddoldeb, Cymru

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021

Gwnaed

am 6.50 p.m. ar 24 Mawrth 2021

Yn dod i rym

1 Medi 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 207(4) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1), a pharagraff 6F o Atodlen 17 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 209(6) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2021.

(3Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “adeg berthnasol” (“relevant time”) yw’r adeg y mae’n ofynnol, neu y caniateir, o dan y Ddeddf, i rywbeth gael ei wneud gan riant neu berson sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol (gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, oedolyn) neu mewn perthynas â rhiant neu berson o’r fath;

ystyr “cynrychiolydd” (“representative”), mewn perthynas â rhiant neu berson sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol (gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, oedolyn), yw—

(a)

dirprwy a benodir gan y Llys Gwarchod o dan adran 16(2)(b) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 i wneud penderfyniadau ar ran y rhiant neu’r person mewn perthynas â materion o fewn Atodlen 17 i’r Ddeddf;

(b)

rhoddai atwrneiaeth arhosol (o fewn ystyr “lasting power of attorney” yn adran 9 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005) a benodir gan y rhiant neu’r person i wneud penderfyniadau ar ei ran mewn perthynas â materion o fewn Atodlen 17 i’r Ddeddf;

(c)

atwrnai y mae atwrneiaeth barhaus (o fewn ystyr “enduring power of attorney” yn Atodlen 4 i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005) sydd wedi ei chreu gan y rhiant neu’r person wedi ei breinio ynddo, pan fo’r atwrneiaeth wedi ei chofrestru yn unol â pharagraffau 4 a 13 o’r Atodlen honno neu pan fo cais i gofrestru’r atwrneiaeth wedi ei wneud;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cydraddoldeb 2010;

mae i “galluedd” yr un ystyr â “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005(3);

ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person sy’n 18 oed neu drosodd;

mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf Addysg 1996(4);

ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw wedi cyrraedd 18 oed;

mae i “rhiant” yr un ystyr â “parent” yn Neddf Addysg 1996.

Pan nad oes gan riant plentyn alluedd

3.  Pan nad oes gan riant i blentyn nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol alluedd ar yr adeg berthnasol, mae’r cyfeiriad at “parent” ym mharagraff 3A(1)(b) o Atodlen 17 i’r Ddeddf i’w ddarllen fel cyfeiriad at gynrychiolydd i’r rhiant hwnnw.

Pan nad oes gan berson sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol alluedd

4.  Pan nad oes gan berson sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol alluedd ar yr adeg berthnasol, mae’r cyfeiriad at “person” ym mharagraff 3A(1)(a) o Atodlen 17 i’r Ddeddf i’w ddarllen fel cyfeiriad at gynrychiolydd i’r person hwnnw.

Erlid am ymddygiad cynrychiolwyr

5.—(1Pan fo rheoliad 3 yn gymwys i hawliad o dan baragraff 3A(1)(b) o Atodlen 17 i’r Ddeddf, mae’r cyfeiriadau at “parent” yn adran 86(2), (3) a (4) o’r Ddeddf i’w darllen fel cyfeiriadau at gynrychiolydd i’r rhiant hwnnw.

(2Pan fo rheoliad 4 yn gymwys i hawliad o dan baragraff 3A(1)(a) o Atodlen 17 i’r Ddeddf mewn cysylltiad â phlentyn sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol, mae’r cyfeiriadau at “parent” yn adran 86(2), (3) a (4) o’r Ddeddf i’w darllen fel cyfeiriadau at gynrychiolydd i’r plentyn hwnnw.

(3Pan fo rheoliad 4 yn gymwys i hawliad o dan baragraff 3A(1)(a) o Atodlen 17 i’r Ddeddf mewn cysylltiad ag oedolyn, mae’r cyfeiriadau yn adran 86(2), (3) a (4) o’r Ddeddf at—

(a)“parent or sibling” i’w darllen fel cyfeiriadau at gynrychiolydd i’r oedolyn hwnnw, a

(b)“child” i’w darllen fel cyfeiriadau at yr oedolyn hwnnw.

Deddf Galluedd Meddyliol 2005

6.—(1Mae rheoliadau 3, 5(1) a (2) yn cael effaith er gwaethaf adran 27(1)(g) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(5).

(2Pan fo rheoliad 4 yn gymwys mewn cysylltiad â phlentyn, mae’r rheoliad yn cael effaith er gwaethaf adran 27(1)(g) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

Am 6.50 p.m. ar 24 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at y fframwaith gweithdrefnol yn Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (“y Ddeddf”). Mae’r Rheoliadau yn darparu’r hawl i bersonau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol a rhieni nad oes ganddynt alluedd i ddod â hawliad mewn perthynas â gwahaniaethu ar sail anabledd etc. o dan yr Atodlen honno. Mae’r Rheoliadau yn gwneud hyn drwy ddarparu y caiff cynrychiolydd ddod â hawliad ar ran y rhiant neu’r person sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol nad oes ganddo alluedd. At ddibenion y Rheoliadau, nid oes gan berson alluedd o fewn ystyr “lacks capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005, hynny yw, pan nad oes ganddo alluedd meddyliol, nid galluedd cyfreithiol.

Mae rheoliad 3 yn darparu, pan na fo gan riant i blentyn nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol alluedd, fod y cyfeiriad at “parent” yn y ddarpariaeth sy’n galluogi’r rhiant hwnnw i ddod â hawliad o dan Atodlen 17 i’w ddarllen fel cyfeiriad at gynrychiolydd i’r rhiant hwnnw.

Mae rheoliad 4 yn darparu, pan na fo gan berson sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol alluedd, fod y cyfeiriad at “person” yn y ddarpariaeth sy’n galluogi’r person hwnnw i ddod â hawliad o dan Atodlen 17 i’w ddarllen fel cyfeiriad at gynrychiolydd i’r person sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol.

Mae rheoliad 5 yn gymwys pan fo rheoliad 3 neu 4 yn gymwys i hawliadau o dan baragraff 3A(1) o Atodlen 17 i’r Ddeddf. Pan fo rheoliad 5 yn gymwys, mae’n ei gwneud yn ofynnol i gyfeiriadau penodol yn adran 86 o’r Ddeddf gael eu darllen yn wahanol gan ddibynnu ai at blentyn sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol nad oes ganddo alluedd, rhiant i blentyn nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol nad oes ganddo alluedd, neu oedolyn nad oes ganddo alluedd y cyfeirir. Mae adran 86 o’r Ddeddf yn darparu na ellir erlid disgyblion, a phersonau sy’n gwneud cais i fod yn ddisgyblion, oherwydd gweithredoedd gwarchodedig a wneir gan eu rhiant neu eu brawd neu eu chwaer. Drwy ei gwneud yn ofynnol i gyfeiriadau penodol yn adran 86 o’r Ddeddf gael eu darllen yn wahanol, mae’r Rheoliadau yn sicrhau na ellir erlid disgyblion, neu bersonau sy’n gwneud cais i fod yn ddisgyblion, am weithredoedd gwarchodedig gan eu cynrychiolydd (os ydynt yn blentyn sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol neu’n oedolyn) neu gynrychiolydd i’w rhiant (os ydynt yn blentyn nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol).

Mae’r Rheoliadau yn pennu bod y darpariaethau yn y Rheoliadau sy’n ymwneud â galluedd meddyliol, mewn achosion penodedig, yn cael effaith er gwaethaf adran 27(1)(g) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2010 p. 15. Mewnosodwyd paragraff 6F o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 gan baragraff 19(5)(h) o Atodlen 1 i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2).

(2)

Mae’r cyfeiriad yn adran 209(6) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(4)

1996 p. 56; diwygiwyd adran 8 gan adran 52 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44).

(5)

Nid yw adran 27(1)(g) yn caniatáu i benderfyniadau ar gyflawni cyfrifoldebau rhiant mewn materion nad ydynt yn ymwneud ag eiddo plentyn gael eu gwneud ar ran person.