Darpariaeth arbed a darpariaeth drosiannol
3.—(1) Er gwaethaf cychwyn adran 73 o Ddeddf 2021, ac Atodlen 2 iddi, mae’r hen gyfraith yn parhau i gael effaith—
(a)mewn perthynas â phlentyn neu ddisgybl y darperir addysg iddo o dan yr hen gwricwlwm, a
(b)mewn perthynas ag addysg a ddarperir felly.
(2) Mae paragraff (1) yn peidio â chael effaith ar 1 Medi 2028.